Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Madagascar

Madagascar

Theatr Donald Gordon

27 – 30 Mehefin 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Madagascar {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-1842

Madagascar

27 – 30 Mehefin 2024

Theatr Donald Gordon

Ymunwch â’ch hoff ffrindiau wrth iddyn nhw ddianc o’u cartref yn Sw Central Park Efrog Newydd a ffeindio’u hunain ar daith annisgwyl i fyd gwirion Madagascar King Julien.

Alex y llew yw brenin y jyngl trefol, y prif atyniad yn Sw Central Park Efrog Newydd. Mae ef a’i ffrindiau gorau – Marty y sebra, Melman y jiráff a Gloria yr hipo – wedi treulio eu holl fywydau mewn caethiwed llon o flaen cyhoedd edmygol gyda phrydau rheolaidd yn cael eu darparu iddyn nhw. Ond, mae chwilfrydedd Marty yn mynd yn drech nag ef ac mae’n dianc – gyda help rhai pengwiniaid rhyfeddol – i archwilio’r byd.

Ymunwch ag Alex, Marty, Melman, Gloria a’r pengwiniaid cyfrwys a doniol, wrth iddyn nhw gamu ar y llwyfan mewn antur gerddorol. Yn llawn cymeriadau rhyfeddol, anturiaethau a sgôr bywiog, bydd dim dewis gennych ond mwynhau!

Canllaw oed: 3+ 

Amser dechrau:
Iau – Sul 5pm 
Gwe – Sul 11am  

Hyd y perfformiad: tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)

Perfformiad ymlaciedig: Gwe 28 Meh 11am

Dysgwch fwy am berfformiadau hygyrch

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y perfformiad agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd). Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3 o leiaf, Iau – Gwe (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp

16-30 

Gostyngiad o £8 (3 pris uchaf). 

O DAN 16 

Gostyngiad o £10 (2 bris uchaf, Llun – Iau, uchafswm o 3 fesul archeb).

BABANOD AR LINIAU

Ar gael yn rhad ac am ddim i blant o dan 2 oed gydag oedolyn yn eu gwarchod. Dewiswch ein Tocyn Cyffredinol + Sedd Babi wrth archebu. Nodwch mai nifer cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer pob perfformiad.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon