Dewch aton ni ar antur fythgofiadwy drwy fywyd rhyfeddol a barn gref Miriam Margolyes, yn fyw ar lwyfan ar ei thaith fwyaf hyd yma i nodi lansiad ei llyfr newydd.
Yn actores a enillodd BAFTA, llais popeth o Monkey i Gwningen Caramel Cadbury, crëwr myrddiwn o gymeriadau bythgofiadwy o Lady Whiteadder i Professor Sprout, mae Miriam yn un o’r actorion hawsaf eu nabod sy’n gweithio heddiw.
“My new book is called OH MIRIAM! - something that has been said to me a lot over the years (often in tones of strong disapproval) - and it contains lots more revelations and stories and discoveries and I can’t wait to share it with you all”.
Mriam Margolyes
O gael ei danfon oddi ar raglen Today (am ddweud be oedd yn ein meddyliau ni i gyd) i gyfaddef ei chariad at Vanessa Redgrave; o Tales of the Unexpected i soffa Graham Norton, hi yw ein trysor cenedlaethol anwylaf a mwyaf di-flewyn-ar-dafod – ac mae Oh Miriam! yn mynd â chi i’w phen ac i ddyfnder ei chalon.
Yn bendifaddau’n ddigon i ddychryn y saint ac yn ddifyr bob gafael, mae Miriam yn eich aros amdanoch chi am sgwrs, mewn noson dros ben llestri, cyn llawned o fywyd a throeon annisgwyl ag y mae'r actores ei hun.
Cyfyngiad oedran: 14+ (dim plant dan 14 oed)
Amser cychwyn: 7.30pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr 55 munud yn cynnwys un egwyl