Mae Gŵyl Undod yn dod â’r chwerthin yn ôl eleni gyda noson gomedi yn llawn i’r ymylon o dalent niwrowahanol o Gymru a thu hwnt, wedi ei guradu a’i gyflwyno gan Artist Cysylltiol Hijinx, Richard Newnham.
Bydd y comedïwyr yn perfformio yn y cnawd a thrwy ddarllediad byw o’r Alban, UDA a Malaysia. Ymunwch â ni yn Cabaret i chwerthin nes bydd eich ochrau’n brifo!
Yr artistiaid: Juliana Heng (nhw/eu) (Malaysia), Mike Cotayo (ef/ei) (UDA), Kate E A Evans (hi/nhw) (Wales), Brian Johnson (ef/nhw) (UDA), a Dave Munro (ef/ei) (yr Alban).
Amser dechrau: 9.30pm, drysau 8.30pm
Hyd y perfformiad: 1 awr 30 munud
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
Hygyrchedd: Dehongliad BSL gan Sami Dunn
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu diodydd o'r bar drwy gydol y sioe (taliad drwy arian parod neu gerdyn). Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
Am Ŵyl Undod
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)