Archwiliwch fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae ein Cyngherddau am ddim ac ysbrydoledig i Ysgolion yn cynnig profiad cerddorfaol byw i fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 2, gyda cherddoriaeth boblogaidd o fyd opera, ffilm a theledu.
Ochr yn ochr ag adroddwr, bydd Cerddorfa WNO a grŵp o unawdwyr yn dod â'r gerddoriaeth a'r cymeriadau'n fyw ar y llwyfan, o flaen eich llygaid. Bydd cyfle hefyd i'r myfyrwyr ryngweithio â'r gerddoriaeth, wrth iddynt gael eu hannog i ganu, dawnsio a chlapio.
Mae'r gyngerdd hon ar gael i archebion grŵp ysgol yn unig.
Amser cychwyn: 1pm
Hyd y perfformiad: tua 55 munud heb egwyl
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd