Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Peace & Passion

Heddwch ac Angerdd

Corws a Cherddorfa WNO

Theatr Donald Gordon

21 Ebrill 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Heddwch ac Angerdd {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2074

Heddwch ac Angerdd

Corws a Cherddorfa WNO

21 Ebrill 2024

Theatr Donald Gordon

Noson o gampweithiau corawl a harddwch gobeithiol.

Ymgollwch yng nghyfansoddiad corawl hyfryd a dwys Fauré, Cantique de Jean Racine. Yn llawn urddas, ceinder a symlrwydd pur, mae Corws WNO yn camu i’r llwyfan i ganu’r darn clodwiw hwn, gan berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus.

Profwch lif di-dor o gerddoriaeth angerddol a thanbaid gyda Symffoni Rhif 4 Schumann. Yn torri’n rhydd o’r traddodiad symffonig, mae’r cylch parhaus hwn o ddrama yn cynnwys dwyster nodweddiadol y cyfansoddwr gyda fflachiadau o ysgafnder a llawenydd. Heddiw caiff ei hystyried fel y mwyaf rhamantus o’i hoff symffonïau. 

I orffen y prynhawn, taith o ansicrwydd i obaith gyda champwaith diamser Mozart, Requiem. Yn fwrlwm o’r un theatr a dynoliaeth â’i weithiau llwyfan, mae Corws WNO yn cael cwmni’r unawdwyr Sophie Bevan, Kayleigh Decker, Egor Khuravskii a James Platt.

#WNOorchestra

Fauré Cantique de Jean Racine
Schumann Symffoni Rhif 4
Mozart Requiem

Arweinydd Tomáš Hanus
Soprano Sophie Bevan
Mezzo Soprano Kayleigh Decker
Tenor Egor Khuravskii
Bas James Platt

Amser y perfformiad: Sul 7.30pm

Hyd y perfformiad: tua 1 awr 55 munud (yn cynnwys un egwyl)

O dan 16

Tocynnau am £5

O dan 26 + Myfyrwyr

Tocynnau am £10

Grwpiau

Grwpiau o 10+ yn arbed £3 ar bob tocyn pris llawn

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd. 

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon