Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: Il trittico

15, 18, 20 + 22 Mehefin 2024

Theatr Donald Gordon

Mwy o berfformiadau Il trittico yn Nhymor Hydref 2024 WNO

Cenfigen, hudoliaeth, cariad, colled, aberth, ffars, twyll a llofruddiaeth - y cyfan mewn un noson.

Mae Il trittico, triptych Puccini o operâu un act, yn cynnwys amrywiaeth o emosiynau mawr. Mae Il tabarro (Y Clogyn) yn craffu ar briodas anhapus gyda chanlyniadau milain. Yn Suor Angelica (Y Chwaer Angelica) rydym yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau. Mae Gianni Schicchi yn llawn twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll.

Mae’r wledd operatig tri chwrs hon yn cynnwys cerddoriaeth wych, megis yr aria boblogaidd O mio babbino caro ac elfennau sy’n ategu ac yn cyferbynnu. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr rhyngwladol enwog, Syr David McVicar (La traviata gan WNO). Bydd Il trittico yn cynnig cyfle prin i fwynhau’r tair opera mewn un noson fel y bwriadodd Puccini.

wno.org.uk/trittico
#WNOtrittico

Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau ar sgrin yn Gymraeg a Saesneg

Amser Cychwyn:
Sad - Iau 6.30pm
Sad 3pm (22 Meh yn unig)

Hyd y perfformiad: Tua 4 awr (yn cynnwys 2 egwyl)

Co-production with Scottish Opera.

CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Archebwch docynnau ar gyfer 5 opera ac arbedwch 25%

Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+, gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.

CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED

Tocyn £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon