WEDI GWERTHU ALLAN ac eithrio lleoedd cadair olwyn
Yn ôl yn dilyn galw mawr!
Ar ôl taith o’r DU ac Awstralia a werthodd allan, mae Rob Brydon yn ôl gyda’i sioe arobryn A Night of Songs & Laughter.
“A winning combination of emotionally rich trip-down-memory-lane songs, and sparkling comedy and impressions”
Peidiwch â cholli un o ddiddanwyr gorau’r DU a’i gerddorfa naw aelod wych mewn noson arbennig iawn wrth i Rob rannu ei daith gerddorol bersonol o Dde Cymru i Hollywood ac yn ôl.
Bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau detholiad annisgwyl o alawon bywiog o Tom Jones i Tom Waites, Elvis i Guys and Dolls ac wrth gwrs y dynwarediadau enwog o bobl fel Mick Jagger, Michael Caine a Steve Coogan. Archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Canllaw: 12+
Efallai bydd iaith gref
Amser cychwyn:
7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr yn cynnwys un egwyl