Mae Send In The Clowns yn sioe rifíw wyllt, ffraeth a phryfoclyd sy’n dathlu hud a gwallgofrwydd theatr gerdd.
Y tro hwn, mae’r Clowns yn troi at waith yr Arglwydd ei hun, gyda dathliad-lofruddiaeth o waith Andrew Lloyd Webber yn eu sioe fwyaf feiddgar erioed – TW*TS! (ie, fel CATS).
Gallwch ddisgwyl dehongliadau unigryw o Phantom, Jesus Christ Superstar, Evita, Sunset Boulevard, Joseph & The Amazing Technicolour Dreamcoat, ac ambell i sioe aflwyddiannus.
"every now and then something different rears its head that makes you say ‘that’s genius’. Enter: Send in the Clowns"
Ymunwch â’r gwestywr – y seren cabaret, enillydd Drag Idol UK a’r ‘incredible vocal powerhouse’ (West End Best Friend) – Fatt Butcher, ochr yn ochr â lein-yp gwych o ddoniau drag a cabaret gorau Canolbarth Lloegr, yn cynnwys Dahliah Rivers, Blü Romantic ac Alanna Boden.
Mae Send In The Clowns: TW*TS yn prysur adeiladu carfan o ddilynwyr ffyddlon ac yn addo sioe fythgofiadwy sy’n llawn comedi beiddgar, lleisiau anhygoel, cabaret camp, cydwefuso a morio canu. Mae pob sioe yn gorffen gyda’n ‘sioe gerdd ugain munud’, sef fersiwn drag o sioe gerdd eiconig sydd wedi ei hymarfer am ddau ddiwrnod yn unig ac wedi’i pherfformio mewn cwta 20 munud. Beth allai fynd o’i le?!
"joyfully outrageous, and deliciously camp!"
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.