Beethoven
Concerto No. 1 in C major for Piano and Orchestra, op.15
Shostakovich
Symphony No.13 in B-flat minor, op.113 (Babi Yar)
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ryan Bancroft arweinydd
Jonathan Biss piano
James Platt bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth.
Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, Babi Yar, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevtushenko yn portreadu erchyllterau Ymgyrch Barbarossa yn erbyn yr Iddewon yn Rwsia. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd oherwydd gwrthwynebiad Khrushchev i’w helfennau gwrth-semitig, ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.
Amser dechrau: 3pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£5
DROS 65 OED, POBL ANABL A DIGYFLOGEDIG
£10
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.