Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A group of five people on stage holding giant eyeballs

Gŵyl Undod Hijinx, Chris Tally Evans + Dança sem Fronteiras

Skin, Muscle & Bone – Pele, Músculo & Osso

Stiwdio Weston

3 Gorffennaf 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Skin, Muscle & Bone – Pele, Músculo & Osso {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-2234

Gŵyl Undod Hijinx, Chris Tally Evans + Dança sem Fronteiras

Skin, Muscle & Bone – Pele, Músculo & Osso

3 Gorffennaf 2024

Stiwdio Weston

Mae Skin, Muscle & Bone - Pele, Músculo & Osso, cydweithrediad rhwng Chris Tally Evans, enillydd gwobr Cymru Greadigol; Fernanda Amaral, enillydd Bonnie Bird; a Dança sem Fronteira, cwmni dawns o São Paulo ym Mrasil, yn gweld concrit a chefn gwlad yn gwrthdaro.

Mae’r perfformiad yn cyfuno iaith theatr-ddawns a cherddoriaeth a seinwedd, ynghyd ag ymgyrchedd anabledd Chris Tally Evans, mewn crochan trawsddiwylliannol o sain a gweledigaeth.

Comisiwn Gwobr Partner Rhyngwladol Unlimited 2023 a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan y British Council.

Chris Tally Evans

Mae Chris Tally Evans yn creu cerddoriaeth, theatr, radio, seinweddau a straeon digidol a byw. Mae ganddo enw da yn rhyngwladol ac mae’n gyn-aelod o Unlimited. Mae ei waith wedi cael ei gyflwyno a/neu ei berfformio yng Nghanada, America, Y Ffindir, Gwlad Pwyl, Qatar, Seland Newydd, Brasil, ledled y Deyrnas Unedig ac ar y radio a’r teledu.

Dança sem Fronteiras

Dechreuodd Dança sem Fronteiras (Dawns Heb Ffiniau) yn 2010, yn São Paulo, pan ddychwelodd Fernanda Amaral (coreograffydd, dawnsiwr) i Frasil ar ôl byw yn Ewrop am ugain mlynedd. Mae’r cwmni’n trawsnewid ffiniau yn bontydd rhwng beth sy’n unigol a beth sy’n gymdeithasol. Mae’r cwmni wedi cael sawl gwobr a chreu perfformiadau dawns i theatrau, amgueddfeydd a gofodau anghonfensiynol, ac maen nhw’n rhedeg preswyliadau a gweithdai ledled Brasil. Yn 2024 maen nhw’n teithio i Gymru a Phatagonia.

Amser dechrau: 8pm

Hyd y perfformiad: 50 munud

Canllaw oed: 14+

Hygyrchedd: Dehongliad BSL gan Tony Evans, Sain Ddisgrifiad gan Alastair Sill

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £6

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Am Ŵyl Undod

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston