Mae’r llythyr caru mwyaf erioed at yr athrylith Billy Joel yn dod yn ei ôl yn 2024!
Mae’r canwr-sgwennwr caneuon a’r pianydd mawr ei glod Elio Pace a’i fand anhygoel yn barod i wefreiddio cynulleidfaoedd gwledydd Prydain unwaith eto â’r sioe arobryn sgubol o lwyddiannus The Billy Joel Songbook ar ôl taith werthodd bob tocyn yn 2022.
Mae’r sioe fyw gyffrous yma’n talu teyrnged i un o gerddorion, canwyr-sgwennwyr caneuon a chyfansoddwyr mwyaf eiconig yr ugeinfed ganrif, gan gipio’r gynulleidfa ar daith drwy gerddoriaeth Joel. Bydd Elio a’i fand yn perfformio mwy na deg ar hugain o hits, gan gynnwys The Longest Time, She’s Always A Woman, An Innocent Man, Uptown Girl, Tell Her About It, The River of Dreams, We Didn’t Start The Fire a Piano Man.
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Mae’n bosibl y bydd y sioe yn cynnwys effeithiau tarth
Amser cychwyn: 7.30pm
Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.