Am yn rhy hir o lawer mae cymeriadau cefndirol Star Wars wedi llercian yn y cysgodion tra bod yr arwyr poblogaidd yn serennu.
Wel, dyna ddiwedd ar hynny! Pwy oedd Roger Roger go iawn? A oedd Wampa wir yn gas? A pham mai’r Imperial Officer oedd yn cael ei dagu bob tro?
Darganfyddwch storïau cymeriadau cefndirol yr Alaeth yn y sioe gerdd cabaret ddoniol hon, wrth i ni roi sylw haeddiannol i’r cymeriadau yma, o’r diwedd.
"Hands down the funniest thing I've seen at the Fringe. I'm not the biggest Star Wars fan but turns out I didn't need to be."
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.