Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Stars of Tomorrow

6 + 7 Awst 2024

Theatr Donald Gordon

Mae dros 40 o ysgolion theatr, cantorion a grwpiau lleol yn uno ar gyfer sioe arddangos fawreddog o gelfyddydau perfformio ieuenctid.

Dros ddwy noson yn olynol, mae’r cynhyrchiad bywiog yma yn dathlu’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr a bydd yn cynnwys cantorion unigol, grwpiau theatr gerdd a drama, dawnswyr stryd a hip-hop, dawnswyr ballet, codwyr hwyl, gymnastwyr, dawnswyr Gwyddelig, neuadd a Lladin ac amrywiaeth o dap, modern a jazz o’r ysgolion dawns a drama lleol gorau.

Gyda doniau ifanc rhyfeddol, goleuadau disglair ac effeithiau gweledol syfrdanol, mae hon yn sioe na ddylech chi ei cholli!

Amser dechrau: 7pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon