Dewch â’ch gitâr aer am noson o’r anthemau roc clasurol gorau gan enwogion y gorffennol a’r presennol!
Gadewch iddyn nhw fynd â chi ar daith gyffrous drwy atgofion roc clasurol, gan berfformio llwyth o ffefrynnau â chywirdeb rhyfeddol, yn fyw ac yn llawn egni, gyda sioe oleuadau a thafluniadau anhygoel. Rydych yn siŵr o fod ar eich traed drwy’r nos.
Dros ddwy awr o anthemau roc clasurol gan artistiaid yn cynnwys Eric Clapton, Led Zeppelin, Queen, Pink Floyd, Deep Purple, Free, The Eagles a Jimi Hendrix, i enwi ond ychydig!
Canllaw oed: 8+ (ddim plant o dan 2 oed)
Amser cychwyn:
Sul 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.