Cynnal y dyfodol gyda chymorth y gorffennol.
Yn dilyn llwyddiant perfformiad y llynedd, mae Opera Ieuenctid clodwiw WNO yn ôl gyda sioe newydd sbon.
Mae’r flwyddyn 2423 wedi cyrraedd ac mae grŵp o blant ysgol a'u hathro android yn mynd am dro yn yr awyr agored, ac yn dod o hyd i gapsiwl amser, anrheg a adawyd gan blant 400 o flynyddoedd yn ôl.
Yn y bocs, maent yn dod o hyd i gasgliad o bethau rhyfedd a pheth gwyrdd crebachlyd. Mewn byd modernaidd lle mae unigoledd a natur yn bethau anhysbys, maent yn sylweddoli gymaint mae’r byd wedi newid ac yn herio eu hunain i ddysgu am y gwrthrychau maent wedi dod ar eu traws. Yn reddfol mae un o’r plant yn gwrthod cymryd sylw o gais yr android i anwybyddu’r planhigyn ac yn dawel bach, mae’n mynd â’r planhigyn adref i’w ddyfrio, gan agor byd o bosibiliadau newydd i'r plant i gyd.
Mae’r Cyfarwyddwr, Rhian Hutchings, a’r Dylunydd, Greta Baxter, yn uno i greu'r cynhyrchiad hwn a fydd yn ein dysgu am bwysigrwydd caru a meithrin popeth byw.
Yn dilyn y perfformiad o opera Cary John Franklin, bydd yr ensemble o 70+ o leisiau yn dod at ei gilydd i ganu gwaith corawl newydd gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Ieuenctid WNO Dan Perkin, Solomon’s Ring.
Cenir yn Saesneg
Amser cychwyn: Sad + Sul, 3pm + 7pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr heb egwyl
POBL O DAN 16 OED
£7.50 - nodwch os gwelwch yn dda rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.