Rydyn ni’n mynd i Ganolfan Mileniwm Cymru
Rydyn ni’n mynd i weld Bear Hunt
Am ddrama brydferth!
Does dim ofn arnon ni...
Mae cerddoriaeth, chwerthin, odlau, rhythmau ac ailadrodd ynghyd â phypedwaith, paent, dŵr a mwd... heb sôn am arth – does dim ofn arnon ni! – yn gwneud yr antur llawn hwyl yma yn brofiad theatraidd perffaith i deuluoedd ifanc.
Ymunwch â’n teulu dewr o anturwyr a’u ci cerddorol wrth iddyn nhw gerdded drwy’r gwair sïol, yr afon sblasiog a’r mwd slwtshlyd, i chwilio am arth. Gallwch chi ddisgwyl llwyth o ryngweithio a rhai syrpreisys ar hyd y ffordd.
Wedi’i addasu i’r llwyfan o’r clasur modern a ysgrifennwyd gan Michael Rosen ac a ddarluniwyd gan Helen Oxenbury.
Canllaw oed: 3+
Amser cychwyn:
Iau 2pm
Gwe – Sad 10.30am + 1pm
Sul 11am
BABANOD AR LINIAU
Ar gael i blant 0-2 mlwydd oed gydag oedolyn yn eu gwarchod.
Sicrhewch eich bod yn dewis ein tocyn 'Safonol a Babi' am £2 ychwanegol (nodwch fod nifer cyfyngedig i bob perfformiad)
YSGOLION
£10 — ffôn 029 2063 6464
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.