Mae'r cynhyrchiad anhygoel rhyngwladol What’s Love Got To Do With It? yn ôl gyda chast newydd sbon!
Mae'r sioe fyw gyffrous sy'n dathlu cerddoriaeth Tina Turner ar daith unwaith eto ledled y DU.
Lansiwyd taith gyntaf What’s Love Got To Do With It? ym mis Chwefror 2019 ac yn gyflym iawn roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda chynulleidfaoedd yn llenwi theatrau ac arenau ledled y DU ac Ewrop.
Mae What's Love Got To Do With It?, sy'n cael ei chyflwyno gan gynhyrchwyr arobryn y sioe hynod llwyddiannus Whitney – Queen Of The Night, yn talu teyrnged i un o artistiaid mwyaf eiconig a phoblogaidd yr 20fed ganrif.
Yn y sioe deithiol gyffrous hon, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl noson egnïol gyda roc a rôl hwyliog yn cynnwys caneuon mwyaf llwyddiannus Tina wedi'u perfformio gan Holly Bannis (Whitney – Queen Of The Night, Starstruck ITV) gyda chefnogaeth band byw 10 person.
Mewn gyrfa anhygoel sydd wedi para dros 50 mlynedd, gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at glywed drefniadau cerddorol syfrdanol o ganeuon mwyaf poblogaidd Tina, gan gynnwys Private Dancer, What's Love Got To Do With It?, Proud Mary, River Deep, Nutbush City Limits, Simply The Best a llawer mwy. Mae'r profiad cerddorol hwn na ddylech chi ei golli yn ddathliad arbennig o un o'r cantorion benywaidd gorau a fu erioed.
Caiff What’s Love Got To Do With It? ei chyflwyno gan yr hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw Cuffe and Taylor mewn cydweithrediad â Paul Roberts Productions.
Canllaw oed: 8+
Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio.
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y sioe: 2 awr 20 munud yn cynnwys un egwyl
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.