Cyflwynir gan y rhai peniog a grëwyd sioe arobryn Gallifrey Cabaret...
Dewch â’ch tîm TARDIS gorau ynghyd a pharatowch i frwydro yng nghwis gorau Amser + Gofod!
Ydych chi’n ’nabod eich Daleks a’ch Sea Devils? Eich Quarks a’ch Ptings? A beth yw hyd sonic screwdriver beth bynnag..?
O Mondas i Trenzalore, byddwn yn profi popeth rydych chi’n ei wybod am Doctor Who – gyda rowndiau ychwanegol, adloniant a gwobrau – wedi’i gyflwyno gan Mxster Doctor/Games, Reece Connolly, gyda dyfarniad gan Carrot fel yr ofnadwy Anne Droid, yn fyw o Satellite 5!
Mae’n rhaid cael 2-6 aelod i bob tîm.
Amser dechrau: 3.30pm, 2.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.