Mae ffenomenon Broadway a’r West End, Kinky Boots The Musical, yn strytian ‘nôl i Gaerdydd mewn cynhyrchiad newydd sbon gyda Johannes Radebe o Strictly Come Dancing a’r seren newydd Dan Partridge.
Mae’r sioe syfrdanol yma, sy’n seiliedig ar stori wir a ffilm lwyddiannus, yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan yr eicon pop Cyndi Lauper sydd wedi ennill gwobr Tony a Grammy, llyfr doniol a chadarnhaol gan yr enillydd gwobr Tony Harvey Fierstein ac mae wedi’i chyfarwyddo gan Nikolai Foster (Grease ac An Officer and a Gentleman).
Ar ôl etifeddu ffatri esgidiau ei deulu, sy’n methu, a gyda pherthynas sy’n chwalu, mae bywyd yn heriol iawn i Charlie Price, nes iddo gwrdd â Lola, brenhines drag efallai y bydd ei disgleirdeb a’i sodlau simsan yn gallu achub y busnes sydd mewn trafferth.
Peidiwch â cholli Kinky Boots the Musical, sy’n siŵr o godi’ch calon a dathlu unigoliaeth pawb.
Canllaw oed: 10+
Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio + iaith gref
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud, yn cynnwys 1 egwyl
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw – Iau, ar y 2 bris uchaf
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £5, Maw – Iau (2 bris uchaf)
16–30
Gostyngiad o £5. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.