Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Perfformiadau am ddim: Dydd Sadwrn

Yn ystod yr ŵyl cewch gyfle i brofi sawl perfformiad cyhoeddus am ddim drwy gydol yr adeilad - gan gynnwys darnau dawns pop-yp, ffilmiau 360 ymdrochol, gosodiadau sain, trafodaethau panel a chynhyrchiadau theatr ieuenctid.

Yng nghyntedd y Glanfa

Drwy'r dydd: Power Wall. Darganfyddwch fwy am y cynhyrchiad Ymyriadau Pwerus hwn, a gomisiynwyd drwy'r bartneriaeth Yn Gryfach Ynghyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Valleys Kids, a rhowch wybod beth yw ystyr 'pŵer' i chi.

Drwy'r dydd: Mae Pencil Breakers yn cynnwys darnau gwreiddiol o ysgrifen gan leisiau cwiar, anabl ac actifydd. Dewch o hyd i bedwar poster yng nghyntedd y Glanfa a sganiwch y cod QR er mwyn darllen neu wrando ar y straeon.

3pm - 9pm: Profiad VR Ripples of Kindness ar bwys y Caffi yng nghyntedd y Glanfa. Caiff y profiad realiti rhithwir cymydol hwn ei ysbrydoli gan straeon Hussein Amiri a'i deulu (The Boy with Two Hearts), a orfodwyd i ffoi o Affganistan yn 2000.

3pm - 3.30pm  a 6pm - 6.30pm (BSL gan Sami Dunn): The Storm. Dyma Theatr Ieuenctid Penygraig yn cyflwyno perfformiad theatr 30 munud am gariad, ffyddlondeb a pherthyn.

5pm - 5.30pm (BSL gan Sami Dunn): Leanne. Mae'r artist Hannah Lad yn perfformio ac un fenyw ddigrif dros ben fel ‘Leanne’- merch ifanc yn aros am gyfweliad swydd.

Yn Ystafell Gyfarfod 6

1pm - 2.30pm (Saesneg) / 4.40pm - 6.30pm (Cymraeg): Mae'r Cydymaith Creadigol Jo Fong yn cyflwyno Heb Fod Fan Hyn Na Man Draw, cyfres o drafodaethau byr - doniol, agos, pwerus ac amyneddgar - yn cymryd lle mewn parau dros chwe munud rhwng Sonja a Jo, ac Eddie a Sarah. Mae'r profiad "ysbrydoledig a chalonogol" hwn yn dechrau gyda cherdded am ychydig ac yn datblygu'n adeg i feddwl, gwrando a gweld y bobl rydyn ni'n byw yn eu canol sydd grefftio mewn modd chwareus.

Yn yr ofod arddangos

Drwy'r dydd: Mae Company of Sirens, mewn cydweithrediad â Sight Life Wales, yn cyflwyno With Eyes Closed, ffilm sy'n edrych ar atgofion sy'n perthyn i gerddoriaeth. Gan gynnwys perfformwyr â cholled golwg, mae'r ffilm yn gasgliad o straeon personol sy'n ystyried natur y cof ac adrodd straeon. Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall ac Angharad Matthews. Cyfarwyddwr cynorthwyol: Tafsila Khan. Dylunydd goleuadau: Cara Hood. Cerddoriaeth: Stacey Blythe.

Drwy'r dydd: Mae Vessels yn gerdd gair llafar gan y Cydymaith Creadigol Jaffrin Khan sy'n ystyried pwysedd cymdeithasol delwedd corff. Mae'r darn yn edrych ar sut mae'r diwydiant gosmetigau, y wasg a'n perthnasau'n effeithio ar y ffordd rydyn ni'n gweld ein hunain. Wedi'i ysgogi gan brofiadau bywyd, defnyddiodd Jaffrin anecdotau personol fel ysbrydoliaeth.

Drwy'r dydd: The Successors of Mandingue, ffilm gan Tim Short sy'n edrych ar gerddoriaeth a dawns y cydweithrediad egnïol hwn o Orllewin Affrica, gyda dawnswyr o Gymru a Senegal a cherddoriaeth gan N’famady Kouyaté.

Drwy'r dydd: Unlikely Heroes - The Curse of the Doughnut, drama sain 30 munud sy'n ystyried hunaniaeth, cenedl a rhywioldeb mewn modd chwareus. Canllaw oedran: 14+

12pm - 11pm: Sounds of City Road. Wedi'i greu gan y Cydymaith Creadigol Ruslan Pilyarov, mae'r darn hwn yn pwytho darluniau gan fusnesau lleol ar Heol y Plwca, gan adael i chi ymdrochi'ch hun yn yr ieithoedd a diwylliannau gwahanol sy'n gwneud yr ardal yn un mor egnïol.

Yn y Stiwdio Weston

7pm - 10pm: Mae'r Ladies of Rage yn dod ynghŷd i gyflwyno noswaith o gerddoriaeth, gan gynnwys perfformiad byw cyntaf o Harddwch Du, EP mewn pum rhan wedi'u greu gan Womxn of Colour.