Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Ripples of Kindness: Profiad realiti rhithwir

Ripples of Kindness: Profiad realiti rhithwir

Gyda’i stori am frawdoliaeth, cariad a phositifrwydd, mae’r profiad rhithiol cymunedol newydd hwn wedi ei ysbrydoli gan straeon am Hussein Amiri a’i deulu, a orfodwyd i ddianc o Afghanistan yn 2000.

Mewn profiad a grëwyd mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri i anrhydeddu bywyd rhyfeddol eu brawd, mae Ripples of Kindness yn gwahodd grwpiau bach i rannu yn yr effaith bositif a gafodd Hussein ar bawb o’i amgylch, o Afghanistan i Gymru.

Mae’r profiad wedi’i ganoli o gwmpas y sofra – y gofod byw/bwyta o fewn y cartref teuluol lle byddai’r tri brawd a’u rhieni’n dod at ei gilydd i siarad a chyfnewid straeon dros bryd o fwyd.

Mae’r teulu Amiri yn eich croesawu i ymuno â hwy (yn rhithiol) yn y sofra i gwrdd â hwy ac â rhai o’r bobl a ddaeth i’w cynorthwyo pan oedd fwyaf o angen cymorth arnynt.

Cewch gyfle i ymuno mewn byd rhithiol a synhwyraidd sy’n newid yn barhaus gan gyfuno testun, perfformiadau, recordiadau gair-am-air, delweddau a sain, a thrwy hynny ymgolli’n llawn yn straeon y teulu Amiri. 

Mae hwn yn gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru ac All Seeing Eye mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri.

Ariennir gan Gronfa Ddiwylliant Sefydliad Garfield Weston.

Mae'r profiad realiti rhithwir hwn yn cydfynd â'n cynhyrchiad llwyfan o The Boy With Two Hearts - yn Stiwdio Weston ar 2 - 23 Hydref 2021.