Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Big Moon

The Big Moon

12 Hydref 2023

Bydd y digwyddiad yma nawr yn digwydd yn Stiwdio Weston. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau drwy e-bost.

Mae The Big Moon, y grŵp pop-amgen â phedwar aelod a ffurfiwyd yn 2014, wedi dod yn un o fandiau mwyaf didwyll a chyffrous y DU diolch i’w dull emosiynol o ganu caneuon a’r cysylltiad annhoradwy rhwng yr aelodau, sef Jules Jackson, Cecilia Archer, Fern Ford a Soph Nathan. 

Cafodd eu halbwm diweddaraf, a gafodd ei ryddhau y llynedd, ei ysgrifennu a’i recordio pan oedd y brif gantores Jules Jackson chwe mis yn feichiog. Dyddiadur yw Here Is Everything, cyfrif mewn amser real o sut beth yw darganfod eich bod chi’n feichiog yn ystod pandemig byd-eang, tyfu person tu mewn i chi, a rhoi genedigaeth, gan deimlo’r holl bryderon sy’n cyd-fynd â’r profiad hwnnw. Mae’n gofnod o deimlo eich ffordd drwy’r anhysbys, gan ddibynnu ar eich ffrindiau i helpu i’ch arwain.  

Amser dechrau: 9pm

Sioe sefyll yw hon. Os bydd angen cadair arnoch, siaradwch ag aelod o staff ar y diwrnod.

Mwynhewch berfformiadau gan The Staves a The Big Moon mewn un noson am bris gostyngedig pan fyddwch chi’n archebu’r ddau ddigwyddiad ar yr un pryd. Mynnwch docynnau i weld y ddwy act am £27.50 – ychwanegwch y ddau docyn at eich basged a chaiff y gostyngiad ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi’n talu.

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.