Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Staves

The Staves

12 Hydref 2023

Gan fowldio eu hoffter o ganu gwerin ac Americana yn straeon crefftus hyfryd am gariad a cholled, mae The Staves ymhlith perfformwyr gorau'r genre gwerin-pop modern.

Bydd y perfformiad yn Llais yn gyfle prin i weld The Staves mewn lleoliad mwy agos-atoch a phrofi iwcalili a gitâr eu bysedd tyner a harmoni syfrdanol lleisiau chwiorydd. 

Mae albwm cynta’r grŵp ers dros bum mlynedd, Good Woman (a ryddhawyd yn 2021), yn grynhoad o bopeth mae bywyd wedi’i daflu atyn nhw yn ystod y cyfnod yna – tarfu mawr, torcalon a cholli eu mam yn 2018. Y record yw eu gwaith mwyaf personol ac egnïol eto, gan weithio gyda’r cynhyrchydd John Congleton (St Vincent, Sharon Van Etten, Angel Olsen) i lunio mynegiant mwy amrwd a hunanhyderus o fwriad.

 

Amser dechrau: 7pm

Mwynhewch berfformiadau gan The Staves a The Big Moon mewn un noson am bris gostyngedig pan fyddwch chi’n archebu’r ddau ddigwyddiad ar yr un pryd. Mynnwch docynnau i weld y ddau act am £27.50 – ychwanegwch y ddau docyn at eich basged a chaiff y gostyngiad ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi’n talu.

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.