Dyma’r Cynhyrchydd Dysgu Creadigol Alan Humphreys yn sôn am Ymyriadau Pwerus, comisiwn cyffrous dan arweiniad ieuenctid a gynhaliwyd yn ystod Gŵyl y Llais 2021.
Drwy gydol Gŵyl y Llais 2021, llenwyd ofodau Canolfan Mileniwm Cymru gan gyfres o ymyriadau creadigol a oedd yn archwilio'r cysyniad o 'bŵer'.
Roedd y rhain yn pop-yps i ysgogi'r meddwl sy'n cwmpasu cymysgedd cyfoethog o ymarferion artistig gan gynnwys perfformiad byw, gosodiadau, celf weledol, taflunio, ffilm, gair llafar, drama sain a rhyddiaith ysgrifenedig – pob un wedi'u dyfeisio, eu creu a'u perfformio gan bobl ifanc a gweithwyr celfyddydau ieuenctid Sparc Plant y Cymoedd, ein partner yn y Cymoedd, drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd.
Arweiniwyd y prosiect gan yr artist Bethan Marlow. Gweithiodd Bethan gyda'r grwpiau ers 2018 ac ymunodd â sesiynau wythnosol – yn y cnawd ac ar-lein – i gydweithio â'r gweithwyr celfyddydau ieuenctid a phobl ifanc i ddatblygu darnau ar gyfer yr ŵyl.
Roedd y gwaith yn cryfhau lleisiau pobl ifanc o'r Cymoedd a Chaerdydd o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys pobl anabl, niwroamrywiol, â phrofiad gofal, LHDTC+ a Du, Asiaidd ac amrywiol ethnig.
Nid oedd hon yn broses syml ac fel y gallwch ddychmygu, cafodd Covid effaith ar gynllunio a datblygu'r cynhyrchiad.
Ond er i sesiynau symud ar-lein a bu'n rhaid gohirio'r cynhyrchiad terfynol am flwyddyn, roedd yn caniatáu meddwl yn ddyfnach a datblygiad mwy ystyrlon.
Wrth edrych yn ôl nawr, mae'n anodd dychmygu sut y byddai'r gwaith hwn wedi'i gyflwyno pe na chawsom y flwyddyn ychwanegol.
Rydym yn parhau i weithio gyda Sparc Plant y Cymoedd i gefnogi a datblygu'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw, gan ddarparu cyfleoedd creadigol gwahanol a hyrwyddo eu teithiau a'u gyrfaoedd.
Er enghraifft, mae Hannah (sy’n ymddangos yn y ffilm) wedi cyfarfod â sefydliadau celfyddydol mawr yng Nghymru a'r DU, yn parhau i ysgrifennu a pherfformio, a bellach yn Arweinydd Rhwydwaith/Cyfranogiad ar y prosiect Make It! yr ydym hefyd yn partneru arno.
Roedd y cynyrchiadau yng Ngŵyl y Llais yn llwyddiant ysgubol ac fel y gwelwch yn y ffilm, cafodd effaith enfawr ar y bobl ifanc dan sylw.
Aeth y pedwar diwrnod hynny ym mis Tachwedd heibio mewn fflach, felly mae'n bwysig pwysleisio bod y bobl ifanc yn parhau i fynychu eu theatrau a'u clybiau ieuenctid, gan edrych ar sut y gallant ddatblygu ac adeiladu ar y gwaith a grëwyd ganddynt.
Ni ddaeth hyn i ben yng Ngŵyl y Llais; mewn rhai ffyrdd dim ond y dechrau oedd hyn, oherwydd dyma sut mae gwaith hirdymor yn edrych.
Alan Humphreys, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol
TANIWCH EIN DYFODDOL
Tecstiwch AWEN i 70085 er mwyn rhoddi £5