Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad am Gelf Gyhoeddus

Yn galw artistiaid!

Eich cyfle i arddangos celf gyhoeddus yn Ffwrnais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Rydyn ni’n gwahodd ceisiadau gan artistiaid, grwpiau cymunedol a/neu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i greu arddangosfa grog ar gyfer ein bar caffi newydd Ffwrnais.

Yr haf yma byddwn ni’n tynnu sylw at argyfwng yr hinsawdd drwy greu a rhannu gweithiau gwahanol, a bydd eich arddangosfa gelf gyhoeddus yn rhan o hyn, gan ddangos eich dehongliad o’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r gofod crog yn Ffwrnais wedi cael ei osod yn ddiweddar ac mae’n berffaith ar gyfer delweddau wedi’u fframio, cynfas neu ffotograffiaeth. Ein harddangosfa gyfredol yw Faadi, cydweithrediad gydag Al Naeem, Hayaat Women Trust a Young Queens.

Rydyn ni’n chwilio am gelf gyhoeddus sy’n gallu ysbrydoli trafodaethau, codi ymwybyddiaeth o argyfwng yr hinsawdd a gweithredu fel ymateb i newid yn yr hinsawdd neu alwad am weithredu er mwyn i bobl ymgysylltu’n fwy.

Mae’r galwad yma yn rhan o’n Rhaglen Gyllidebu Cyfranogol lle mae pawb sy’n ymgeisio yn pleidleisio ar ddarnau ei gilydd a’r enillydd fydd yn cael y comisiwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon gyda hyn cyn anfon eich cais. Mae’r prosiect yma yn rhan o’n rhaglen gymunedol, felly mae cyd-ddylunio a chyd-greu yn rhan bwysig ohono. Rydyn ni’n gweithio tuag at sicrhau mai’r cymunedau rydyn ni’n gweithio gyda nhw sy’n gwneud penderfyniadau, yn hytrach na chymryd rhan ein hunain. Mae’r broses yma yn waith ar ei hanner; rydyn ni’n gwerthfawrogi unrhyw adborth fel y gallwn ni addasu ac esblygu.

Gallwch chi ddysgu mwy am ein tîm cymunedol a’u gwaith YMA.

Arddangosfeydd blaenorol

Rydym eisoes wedi cynnal pedair arddangosfa gelf gyhoeddus: un ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, un mewn ymateb i Mae Bywydau Du o Bwys, un i ddylunio Gwarchodwr Gardd ac Azadi, gosodwaith gaeaf ar raddfa fawr a ddyluniwyd gan Naz Syed o Ziba Creative.

Sut i ymgeisio

I ymgeisio ar gyfer y cyfle yma, anfonwch ddisgrifiad ysgrifenedig (heb fod yn hirach na thudalen A4), fideo neu sain o’ch gwaith celf gyda dolen i’ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol neu i wybodaeth am y gwaith a wnewch. Bydd y rhain yn cael eu rhannu â’r ymgeiswyr eraill felly gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon gyda hyn, neu cysylltwch â ni os hoffech chi drafod hyn ymhellach.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 9 Mehefin

 

Y ffi

Mae gennym £1000 ar gael; mae £300 ar gyfer gosod a symud yr arddangosfa, wedi’i gyfrifo fel £150 y diwrnod. Dylid defnyddio gweddill y ffi ar gyfer fframio, hongian neu greu’r gwaith celf.

Rydyn ni’n hapus i drafod ymholiadau am y gyllideb. Gallwch fod yn sicr ein bod am wneud yn siŵr eich bod yn cael eich talu am eich amser a’ch cyfraniad at yr arddangosfa yma.

Os hoffech chi drafod unrhyw beth neu gael gwybod mwy, e-bostiwch cymuned@wmc.org.uk