Dros y 30 diwrnod nesaf, rydyn ni'n gweithio gyda'r elusen Grassroots o Gaerdydd i godi £15,000 i ariannu 30 lle ar ein gweithdy Radio Platfform chwe wythnos.
CODI'R TO
Fel elusen, rydyn ni'n credu bod pob unigolyn ifanc yn haeddu cyfle i ddatblygu a chyflawni'u potensial, waeth beth fo'u hamgylchiadau.
Mae Grassroots wedi helpu miloedd o bobl ifanc o bob math o gefndir sydd rhwng 16 a 25 oed ac sy'n agored i niwed; mae'r elusen yn darparu amgylchedd diogel llawn hwyl i'w helpu nhw i ddysgu, i gymdeithasu ac i wneud ffrindiau newydd.
Mae gan rai o'r grwpiau rydyn ni'n gweithio gyda nhw gyflwr Asperger – sy'n ffurf o awtistiaeth – ac mae grwpiau eraill yn rhieni ifanc sydd angen ychydig o gymorth.
EIN NOD
Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn helpu 30 o bobl ifanc – sydd wedi cael bywydau caled – i ddod o hyd i'w llais ac i gyflawni'u potensial.
Bydd tîm Radio Platfform yn mynd â'r gweithdy symudol at y bobl sydd ei angen fwyaf, fel bod cyfle gan bawb i gymryd rhan ac i elwa ohono.
SUT MAE EIN GWEITHDAI RADIO YN HELPU POBL?
Mae ein cwrs ymarferol chwe wythnos yn cynnig sgiliau ymarferol er mwyn helpu pobl o ran eu cyfle i gael gwaith e.e. dysgu cyflwyno, golygu ac, yn y pen draw, cynhyrchu sioe radio.
"Mae'r gweithdy'n fwy na chwech wythnos o ddysgu sut i gyflwyno a chynhyrchu sioe radio. Mae'n ffordd hefyd o ddysgu sgiliau bywyd i bobl ifanc, gan roi hyder iddyn nhw a rhoi'r offer sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn cyflawni'u potensial."
BETHAN ELFYN, CYFLWYNYDD RADIO BBC CYMRU
Ond mae llawer mwy i'r gweithdy na hynny.
Byddan nhw hefyd yn dysgu sgiliau bywyd pwysig a fydd yn codi'u hyder ac yn darparu llwyfan gwerthfawr i'w galluogi nhw i fynegi'u hunain.
Helpwch ni i ledaenu'r gair ar y cyfryngau cymdeithasol. Rhannwch gan ddefnyddio'r hashnod: