O’r diwrnod y caewyd ein drysau, aeth criw ifanc Radio Platfform, ein gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc, ati i ddarlledu o’u cartrefi – o ystafelloedd byw, ystafelloedd gwely a charafanau.
Dyma sut mae’r tîm wedi bod yn ymdopi yn sgil yr holl newidiadau a chyfyngiadau symud...
MOLLY, cydlynydd yr orsaf a chyflwynydd
Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i mi gan mai un o fy mhrif ddyletswyddau yw rhedeg yr orsaf radio o ddydd i ddydd – ac mae’r stiwdio wedi bod ar gau ers tair wythnos.
Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf rydw i a’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed ac yn meddwl yn greadigol er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gartref.
Rydw i wedi bod yn creu sioeau o fy ystafell fyw gan ddefnyddio desg radio cludadwy ac wedi gwneud defnydd o gyfryngau cymdeithasol i estyn allan at y gymuned ehangach.
Rydyn ni wedi bod yn cynnal ein cyfarfodydd staff dros alwadau fideo – sy’n rhyfedd! Ac rydw i wedi bod yn diweddaru ein haelodau ac yn sicrhau bod gen bawb popeth maen nhw ei angen, drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-byst.
Yn ddiweddar es ati i greu tiwtorial gartref am sut i greu podlediad yn defnyddio ffôn symudol, dwi’n gobeithio y bydd yn annog eraill i fynd ati i fod yn greadigol.
Dwi mor falch o sut mae’r tîm cyfan wedi addasu, ac yn edrych ymlaen at fynd nôl i’r stiwdio achos mae fy nheulu i’n lawer rhy swnllyd.
LUKE, Cynorthwyydd Darlledu
Mae fy rôl wedi newid cryn dipyn dros yr wythnosau diwethaf. Fel arfer dwi’n gweithio yn y stiwdio, ac mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys trefnu’r amserlen ddarlledu a sicrhau bod y stiwdio’n gweithredu’n effeithiol.
Fodd bynnag, ers i Ganolfan Mileniwm Cymru gau, rydw i wedi cael hi’n haws nag oeddwn i’n ei ddisgwyl i addasu, ac mae’n gyffrous.
Rydyn ni dal wrthi’n creu cynnwys ac yn amserlennu, hyd yn oed os yw amgylchiadau diweddar yn golygu bod rhaid i ni roi’r cynnwys hwnnw ar rwydwaith wahanol. Yn ystod y cyfnod yma mae radio yn gyfrwng pwysig i lawer.
Mae hwn hefyd yn gyfle i mi gyflwyno cynnwys i Radio Platfform ac i brosiectau radio eraill, a hynny o fy nghartref.
Rydw i wedi bod yn brysur yn golygu ac yn amserlennu rhaglenni, yn cynorthwyo eraill i gyflwyno sioeau, a llwyddais hefyd i greu tiwtorial ar sut i olygu rhaglenni gan ddefnyddio Adobe – ar y ffordd yn fuan!
DAN, cynorthwyydd prosiect a chyflwynydd
Dydy hwn heb fod yn hawdd i r’un ohonom ni, ac mae cyfyngiadau symud wedi bod yn anoddach fyth i mi a fy mrawd gan ein bod ni wedi bwriadu symud tŷ….
Rydw i bellach wedi gorfod rhoi’r gorau i freuddwyd o loches fach clud fy hunan ym mhell o brysurdeb y byd sy’n llawn ofn a phryder… ac wedi gorfod symud i garafán yng ngardd gefn tŷ mam!
Diolch byth mae gen i fy llyfrau; cyfres lyfrau Game of Thrones, Casgliad Sherlock Holmes a Chasgliad Shakespeare Rhydychen.
Mae’r rhain yn fy niddanu, ac rydw i hefyd wrthi’n ysgrifennu ar gyfer y sioeau rydw i’n eu cynllunio ar gyfer Radio Platfform.
Mae gen i offer podlediad cludadwy o’r orsaf hefyd – ac mae hwn bellach wedi’i osod yn y garafán, felly dwi’n gallu recordio yn fanno mewn tawelwch.
TUDOR, cyflwynydd
Mae teitl fy sioe – Love in the Time of Extinctions, yn reit addas ar gyfer ein sefyllfa bresennol a’r ffaith ein bod ni’n gaeth i’n cartrefi.
Rydw i wedi bod yn canfod y pethau rhyfedd ac arbennig o’m cwmpas er mwyn creu ychydig o ddihangfa.
Dwi’n gwybod ei fod yn amser od i lawer, ond fe ddylai hefyd fod yn gyfnod i ni adlewyrchu a dianc o brysurdeb y byd.
Fel bob amser, yr hyn sy’n cysylltu bob un ohonom ni yw’r thema sy’n rhedeg drwy fy netholiad.
Rydw i’n gofyn bob tro; ydy’r gân yma’n gwneud i eraill deimlo'r hyn rwy’n ei deimlo?
Mae hwn yn arfer tosturi – yn ein caniatáu ni i ddychmygu sut mae eraill yn ymateb i’w hamgylchiadau. Neu, ddychmygu sut mae eraill yn dawnsio o amgylch eu ceginau!
EWA A REN, cyflwynwyr
Roedd newid i recordio gartref yn syndod o hawdd. Roedd gennym ni ddigon o feicroffonau ar gyfer bob aelod o’r cast, ac roedd Jack eisoes yn recordio gartref.
Mae’r rhan fwyaf o gynnwys Here There Be yn cael ei greu tu hwnt i’r stiwdio beth bynnag – fel golygu a chreu ein trac sain wreiddiol (a recordiwyd yn ei gyfanrwydd yn ystafell wely Ren).
Un peth da am recordio tu allan i’r stiwdio yw bod modd i ni gymryd gymaint o amser ag sydd ei angen i recordio bob pennod.
Gallwn ni gymryd hoi fach pryd bynnag rydyn ni awydd, oedi am funud i wirio rhywbeth heb boeni am redeg allan o amser neu gadw person sydd mewn stiwdio arall yn aros.
Pan ddechreuwyd y cyfyngiadau symud, aethom ni ati i greu gofod recordio go iawn, gan drawsnewid ein hatig i ryw fath o stiwdio. Roedd y waliau ar ogwydd a gofod caeedig yn golygu bod bron dim atsain yn ein recordiadau. Mae’n ddelfrydol!
Mae Here There Be yn ddrama a 5ed gyfrol o bodeleidad Dungeons & Dragons sy’n dilyn dau ‘spellcasters’ sy’n ceisio goroesi mewn teyrnas lle mae hyd a lledrith yn beryg bywyd.
Bydd ein pennod nesaf (pennod 7) yn cyflwyno ein gwestai cyntaf. Bydd Robin Harper yn ymuno â ni ar gyfer dau bennod fel y clerwr teithiol, Tybalt.
Cyfrannwch heddiw
Helpwch ni drwy’r pandemig coronafeirws