Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dathlu ein hanes cwiar

Dyma Peter Darney, ein cynhyrchydd a rhaglennydd cabaret, yn nodi Mis Hanes LHDTh+ drwy ystyried sut mae diwylliant cwiar wedi ysbrydoli ein gwaith fel canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru.

Ymunais â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda brîff i barhau a thyfu ein harlwy cabaret. Ar ôl gyrfa o weithio fel cynhyrchydd ac artist cwiar, mae cynnwys diwylliant LHDTh+ yn rhywbeth sydd wedi bod wrth wraidd y rhan fwyaf o'm bywyd gwaith.

Mae rhai pobl yn gofyn pam ei bod hi'n bwysig parhau i farcio a chofio o ble rydyn ni wedi dod. Ydy, mae'n wir bod y gyfraith bellach yn fwy cyfartal, ond i lawer ohonom mae'r frwydr dros gydraddoldeb mewn bywyd bob dydd ymhell o fod ar ben.

Dolly Trolley wedi'i gwisgo mewn leotard gwyrdd

Mae'n ffaith drist bod troseddau casineb yn erbyn ein cymuned wedi codi'n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae materion iechyd meddwl hefyd yn effeithio'n anghyfartal ar bobl ifanc LHDTh+. Felly nawr yw'r amser i gefnogi ein cymuned, llwyfannu ein hartistiaid, a chynnig cynrychiolaeth gadarnhaol.

Rwy'n gweld fy rôl i yw gwneud Canolfan Mileniwm Cymru yn rywle gall pobl LHDTh+ ddod ynghyd â'n cynghreiriaid i rannu ein straeon, a dathlu ein tebygrwydd a'n hunigrywder mewn lle diogel, hudolus a gwefreiddiol.

Mae gan Gymru sîn gelfyddydol ffyniannus ac amrywiol, ac mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweithio gyda chymaint o artistiaid a'u llwyfannu yn ystod fy nghyfnod yma.

Tra bod Theatr Donald Gordon yn dywyll yr haf diwethaf, roedd ein Stiwdio Weston yn ddisglair – ac yn fursennaidd iawn.

Foo Foo Labelle

Cawsom y fraint o weithio gydag artistiaid drag fel Dolly Trolley, Venetia Blind, Len Blanco, Wilma Ballsdrop, a'r frenhines drag Fwslimaidd gyntaf ym Mhrydain Asifa Lahore.

O sioeau un dyn i fingo ac erobeg drag bob nos, gollyngwyd digon o rhinestones i orchuddio ffroc Joe Black!

Ac ar flaen ein hadeilad, roedd cynrychiolaeth cwiar hanfodol yn ein gwaith i deuluoedd a phobl ifanc, o amser stori i blant gyda’r brenhines drag Connie Orff i ddosbarthiadau ‘voguing’ hynod ddiddorol gyda Chymuned Ballroom Cymru.

Dyluniadau dawnsfa Kiki

Roeddem hefyd yn gallu rhoi lle ar lwyfan Donald Gordon i Gymuned Ballroom Cymru gynnal y Ddawnsfa Kiki Cymru cyntaf erioed.

Roedd hi'n noson anhygoel, ac roedd yn teimlo'n bwerus i gael cymaint o artistiaid cwiar amrywiol o Gymru a ledled y DU i lenwi gofod lle'r ydym wedi cael ein tangynrychioli'n aruthrol – fel yr ydym wedi bod ym mhob theatr yn hanesyddol.

Y Nadolig diwethaf, cawsom y fraint o weithio gyda Big Loop i wneud y sioe Nadolig cwiar-gyfeillgar fwyaf gwyllt erioed yng Nghaerdydd gyda Polly Amorous, Rahim Al Habachi a llwyth o ffrindiau.

Gyda chaneuon, bolddawnsio, bwrlésg, boylesque a fersiwn ffiaidd newydd o Twelve Days of Christmas, daeth ein theatr yn dawddlestr i bobl fod yn ddiogel ac unigryw, a rhannu yn y llawenydd o godi enaid ein gilydd mewn byd sy’n rhy aml am ddod â phobl i lawr.

Darluniau Grandmother's Closet

Ac nid dyna yw’r diwedd. Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Luke Hereford ar hyn o bryd i ddod â Grandmother’s Closet (and What I Found There...) i'r llwyfan. Mae'n addo dathlu hunan-ddarganfyddiad a phŵer ein cynghreiriaid. A wela i chi yno?

Rwy'n falch bod ein gwaith yn dod â chynrychiolaeth hollbwysig a dealltwriaeth o ddiwylliant cwiar i gynulleidfa newydd sbon. Yng ngeiriau Shirley Bassey, dydyn ni ddim yn heneiddio – rydyn ni'n gwella!

Peter Darney, Cynhyrchydd a Rhaglennydd Cabaret