Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Luke Hereford

Grandmother's Closet (and What I Found There...)

20 – 23 Ebrill 2022

Stiwdio Weston

Antur gerddorol fywgraffiadol sy'n addo direidi a mashups, ffrogiau a divas, a digonedd o galon.

“I’m not just your Nan. I’m your friend too.”

Wrth dyfu lan mewn cymuned glos yn ne Cymru, dibynodd Luke Hereford ar ei famgu fel codwr hwyl personol i'w dywys drwy ei blentyndod cwiar.

Ar ei gamau petrus cyntaf ar hyd yr yellow brick road mae Luke yn herio Broadway, profi ei ddigwyddiad balchder gyntaf a darganfod ei liw lipstic berffaith – gyda cherddoriaeth Madonna, Kylie, Kate Bush a'i holl divas pop yn gefndir.

Ymunwch â Luke wrth iddo faglu ar hyd ei daith gwiar o hunan-ddarganfod drwy ysbryd glamoraidd ei famgu, gan dwyn eu hatgofion disgleiriaf – cyn iddynt ddechrau diflannu am byth.

Amser cychwyn
Mer – Sad 8.30pm (drysau 8pm)
Sad 3.30pm (drysau 3pm)

Rhagolwg: 20 Ebrill, tocynnau £6

Perfformiad ymlaciedig: 23 Ebrill, 3.30pm (drysau 3pm)

Capsiynau: Bydd pob perfformiad wedi'u capsiynu ar gyfer y rheiny sy’n F/fyddar, wedi colli eu clyw neu’n drwm eu clyw.

Amser rhedeg: 70 munud, heb egwyl

Cyngor oedran: 14+
Yn cynnwys iaith gref a noethni rhannol.

Cynnig grwpiau

Grwpiau o 10+, £3 i ffwrdd (ag eithrio'r rhagolwg). Trefnu ymweliad grŵp.

Myfyrwyr + digyflog

£12 (ag eithrio'r rhagolwg)

Pob cynnig yn ddibynol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Perfformiadau Ymlaciedig

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston