Dros Nos yw ein digwyddiad cysgu dros nos unigryw lle mae pobl ifanc o Dde Cymru yn cymryd drosodd ein hadeilad eiconig.
Eleni, ymunodd 40 o bobl ifanc o naw grŵp gwahanol â ni am 24 awr, a chawsant y cyfle i weld cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru The Making of a Monster, cymryd rhan mewn gweithdai ymateb creadigol a mwynhau disgo distaw, yn ogystal â swper, brecwast a chinio rhad ac am ddim.
Fel rhan o’r digwyddiad cyflwynodd hwyluswyr profiadol iawn, gan gynnwys cyfarwyddwr The Making of a Monster, Conrad Murray, weithdai mewn dawns, ysgrifennu geiriau caneuon, bît-bocsio a chelfyddydau gweledol.
Roedd ein partneriaid yn cynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd (3 lleoliad gwahanol), Mess Up The Mess, Llamau a Plant y Cymoedd, yn ogystal â chynrychiolwyr o’n Criw Ieuenctid a’n rhaglenni Llais Creadigol a Radio Platfform.