Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sioe gerdd grime newydd wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Connor Allen

Taith hunangofiannol i arddegau Connor oedd The Making of a Monster wrth iddo wneud penderfyniad a fydd yn newid sylfaen ei hunaniaeth a’r dyn y bydd yn datblygu i fod. Perfformiwyd ef yn ein Stiwdio Weston ym mis Tachwedd 2022.

"Growing up I was too Black for my white friends and too white for my Black friends so the constant thread was where do I fit in? If you mix black with white you get grey and that's the area I felt I was in a lot of the time"

Defnyddiodd y tîm creadigol stori hynod bersonol a chymhleth i greu stwnsh grime-theatr bywiog a oedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, symudiadau ac amlgyfryngau i drochi’r gynulleidfa yn atgofion Connor o’i blentyndod.

Roedd hwn yn gyfle unigryw i rannu sut mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o’n bywydau a’n hunaniaeth bersonol, gan alluogi’r gynulleidfa i glywed cymysgedd o wirioneddau ac emosiynau.

Dysgwch fwy am sut wnaeth cerddoriaeth a dyhead am hunaniaeth ddylanwadu ar The Making of a Monster.

I gyd-fynd â’r daith hon, gwnaethom ni gydweithio â Connor Allen a Sugar Creative i greu profiad realiti estynedig (AR) ymdrochol, The Museum of Nothingness, a oedd yn galluogi ymwelwyr i gamu i mewn i feddwl Connor