Nosweithiau ysblennydd yn llawn dirgelwch, angerdd, hud a lledrith –bydd pob un o’r sioeau anhygoel hyn yn rhoi profiad bythgofiadwy i gynulleidfaoedd o bob oed.
1. Wicked: The Untold Story of the Witches of Oz
31 Hydref – 24 Tachwedd

Wnaethoch chi erioed feddwl pam oedd Glinda mor dda a’r Wrach mor... ddrwg?
Yn y gwaith dychmygus a dyfeisgar hwn, sy’n digwydd yn y cyfnod cyn i Dorothy ymddangos, maen nhw’n cyfarfod pan fydd y ddwy yn astudio dewiniaeth.
Yn annisgwyl, maen nhw’n dod yn gyfeillion. Yn gyfeillion, hynny yw, tan y bydd byd gwallgof Oz yn eu gorfodi i fynd benben â’i gilydd, a dewis rhwng drwg a da.
Sioe sy’n agor ar noson Calan Gaeaf yw hon, ac mae’n addo rhoi mwynhad di-ben-draw.
2. Matilda The Musical
4 Rhagfyr 2018 – 12 Ionawr 2019

Stori merch ryfeddol sy’n llawn dychymyg byw a chlyfrwch, ac yn benderfynol o newid ei thynged ei hun, hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod fymryn bach yn ddireidus.
Y Royal Shakespeare Company sydd wedi creu’r sioe hon, a honno wedi’i seilio ar nofel Roald Dahl, sydd wrth gwrs yn hanu o Gaerdydd.
Mae Tim Minchin wedi creu caneuon gwreiddiol i gyd-fynd â’r stori afaelgar hon am lwyddiant yn trechu methiant, gan ddefnyddio dim ond parotiaid, madfallod dŵr a sialc.
Ar ôl gwefreiddio miliynau o bobl ac ennill dwsinau o wobrau rhyngwladol, dyma daith gyntaf Matilda yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n sicr o roi gwledd i’r teulu dros y Nadolig.
3. Saturday Night Fever
27 Tachwedd – 1 Rhagfyr

Teimlwch y gwres yn codi o fersiwn newydd sbon i’r llwyfan o glasur Travolta, yn serennu Richard Winsor (Casualty, Swan Lake Matthew Bourne, StreetDance 3D) fel Tony.
Mae’r holl ddarnau gorau o’r ffilm i’w gweld yma, yn ogystal â mwy o ddrama, mwy o gerddoriaeth a hyd yn oed mwy o densiwn brathog yn yr aer.
Bydd y tîm a fu’n gyfrifol am sioe anhygoel Cilla the Musical yn sicr o’ch codi o’ch seddi i ddawnsio i rai o glasuron gorau’r Bee Gees.
4. Les Ballets Trockadero de Monte Carlo
16 ac 17 Hydref

Mae pob perfformiad gan 'y Trocks’ yn goferu ac yn byrlymu o dŵtws a thestosteron, esgidiau bale llachar pinc, amrannau ffug rhyfeddol ac agwedd ‘prima ballerina’ o fri.
Mae gan y cwmni bale a chomedi hwn, sy’n gwmni o ddynion yn unig, ddilynwyr selog ym mhob cwr o’r byd i’w dehongliadau digrif o fale clasurol.
Yr hyn sy’n eu gwneud yn fwy arbennig fyth yw eu techneg benigamp, eu campau corfforol mentrus, a'u hamseru comig di-fai.
Bydd hon yn sioe annhebyg i ddim byd a welsoch erioed o’r blaen – ebychwch, chwarddwch, bloeddiwch, ond beth bynnag a wnewch chi, dewch i’w gweld!
5. Le Gateau Chocolat: Icons
18 – 30 Rhagfyr

Yn fwy o lawer na dim ond perfformiad drag, mae sioe llawn opera a lycra Le Gateau Chocolat yn gabaret o gynnwrf annhebyg i ddim byd a welsoch o’r blaen.
Yn Icons, bydd Le Gateau yn troedio’r ffin honno rhwng ochrau cyhoeddus a phreifat cymeriadau, gan edrych ar y bobl, y pethau, y perthnasau a’r gelfyddyd sydd wedi’u creu.
I gyfeiliant band byw, bydd yn cyflwyno’i lais anhygoel drwy gyfuniad amrywiol tu hwnt o gerddoriaeth; o bop i opera, o Kate Bush i Whitney, o Elvis i Wagner ac o Shirley i Gershwin, gan edrych ar y pethau y mae ef ei hun yn eu haddoli drwy ganeuon a cherddoriaeth ei eilunod personol.
Dewch i weld comedi, trasiedi a llawer iawn o archwilio’r enaid, a’r cyfan mewn gwisg fythgofiadwy o Lycra.