Mae eich profiadau realiti rhithwir ac ymdrochol newydd dyfu, am fod byd eang o straeon i ymgolli eich hun ynddyn nhw nawr ar gael yn rhad ac am ddim yn Bocs.
Rydyn ni wedi gweithio gyda StoryFutures i ddod â Xperience i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae llwyth o straeon i chi ddewis ohonyn nhw. O waith arobryn i gipluniau hanesyddol, mae StoryFutures Xperience yn cwmpasu themâu amrywiol gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a newid yn yr hinsawdd ac maen nhw’n cynnwys ffilmiau 360° prydferth a phrofiadau ymdrochol rhyngweithiol llawn. P’un a ydych chi’n ffan o VR neu’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, does erioed wedi bod mwy o gyfleoedd i ymgolli eich hun.