Yn galw ar bawb sy’n hoff o straeon trochol a realiti rhithwir:
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymuno â Storyfutures i ddod ag Xperience i Bocs – ein lleoliad pwrpasol ar gyfer ffurfiau newydd o adrodd straeon.
Mae Xperience yn cynnig sawl profiad realiti rhithwir diddorol, o ganlyniad i waith StoryFutures gydag ystod o bartneriaid anhygoel yn ail-ffurfio ac yn ail-ddychmygu.
Mae straeon XPERIENCE gan StoryFutures yn trafod themâu amrywiol, gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a newid hinsawdd, ac maent yn amrywio o ffilmiau 360 animeiddiedig i brofiadau trochol rhyngweithiol llawn.
Y Profiadau Realiti Rhithwir a Chwmnïau Partner:
Buried in the Rock
Profwch fyd ogofa drwy lygaid yr ogofegwyr Tim a Pam Fogg, sy’n angerddol am archwilio rhai o amgylcheddau olaf y byd sy’n dal yn eu cyflwr gwreiddiol.
Wedi’i osod yng Ngogledd Iwerddon, dyma bortread o ddau unigolyn angerddol a’r hyn sy’n eu gyrru nhw i ddarganfod llwybrau newydd mewn ogofâu er gwaetha’r peryglon, y tywyllwch, a’r anhysbys sydd o’u blaenau. Caiff system ddramatig ogof Tullyard ei datgelu’n llawn mewn manylder syfrdanol, gan gyfleu’r synau a’r ffurfiannau arallfydol yn yr ogof.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: ScanLAB Projects
Hyd: 12 munud
Thema/Pwnc: Ogofa, Natur, Antur. Hygyrchedd: Isdeitlau Saesneg ymlaen/i ffwrdd. Addas mewn cadair olwyn.
Empire Soldiers
Mae Empire Soldiers yn adrodd straeon cyfareddol milwyr De Asia a’r Caribî yn ystod y Rhyfel Mawr a thu hwnt. Wrth i’r daith symud tua’r presennol, mae’r ffocws yn troi at newidiadau’r ganrif ddiwethaf, ac effaith mudo ar y byd heddiw.
Drwy Realiti Rhithwir a 360°, gwrandewch ar straeon bachog o faes y gad, sy’n archwilio themâu hunaniaeth, teyrngarwch, ymerodraeth a brad. Wrth i’r daith symud tua’r presennol, mae’r ffocws yn troi at newidiadau’r ganrif ddiwethaf, ac effaith mudo ar y byd heddiw.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: MBD
Hyd: 2x10 munud
Thema/Pwnc: Rhyfel, Hanes, Hiliaeth/Cydraddoldeb, Goresgyn Adfyd, Gair Llafar
Rhybudd Cynnwys: Effeithiau sain swnllyd a thrallodus ac iaith gref.
Goliath: Playing with Reality
Drwy waith animeiddio sy’n plygu’r meddwl, cewch archwilio cyfyngiadau realiti a stori wir am iechyd meddwl a phŵer chwarae gemau. Mae Echo (wedi’i hadrodd gan Tilda Swinton) yn eich tywys drwy realitioedd niferus Goliath, dyn a dreuliodd flynyddoedd mewn sefydliadau iechyd meddwl unig, ond sy’n canfod cysylltiad mewn gemau aml-chwaraewr.
Gan gyfuno deialog deimladwy, delweddau hudolus a rhyngweithiadau symbolaidd, ymlwybrwch drwy sawl byd i ddadorchuddio stori ingol Goliath. Wedi’i chreu gan Anagram, a enillodd wobr Storyscapes yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca 2015, gwobr Immersive Art Sandbox 2019, ac oedd yn un o Oreuon Realiti Rhithwir 2019 yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis.
Yn addas ar gyfer 16+ | Cynhyrchwyd gan: Anagram
Hyd: 9 munud
Maint amddiffynnwr: Ffin lonydd/2x2m
Thema/Pwnc: Iechyd Meddwl (Sgitsoffrenia), Goresgyn Adfyd
Rhybudd Cynnwys: Mae’r profiad yma’n delio â phroblemau iechyd meddwl difrifol. Yn cynnwys iaith gref.
Hi(story) of a Painting
Mae (Hi)story of a Painting: What’s the Point? yn teithio i mewn i’r stori tu ôl i La Grande Jatte, sef paentiad eiconig gan Georges Seurat rydyn ni i gyd yn ei nabod, ond ddim yn ei nabod go iawn, tan nawr.
Mae’r amgylchedd realiti rhithwir yn dod yn fyw gyda delweddau sy’n cyfleu’r naratif ac sy’n rhoi syniad o faint y gwaith celf, gan alluogi unrhyw un, o unrhyw le yn y byd, i ffurfio cysylltiad agos gyda La Grande Jatte. Dilynwch ni wrth i ni ddysgu sut aeth Georges o fod yn ddyn anhysbys i artist byd-enwog.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Fat Red Bird a Monkeyframe
Hyd: 9 munud
Thema/Pwnc: Celf. Hanes
Rhybudd Cynnwys: Amherthnasol
Monoliths
Mae Monoliths yn plethu delweddaeth ddisglair o dri amgylchedd yng ngogledd y Deyrnas Unedig (rhos, dinas ac arfordir) gyda seinweddau ysgubol a monologau barddol gan Hannah Davies, Carmen Marcus ac Asma Elbadawi. Yn ddychmygus ac yn drochol ar yr un pryd, mae’r profiad realiti estynedig yma’n destament syfrdanol i’r cysylltiad annatod rhwng person a lle.
Cafodd Monoliths ei enwebu yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain y BFI ar gyfer ‘Gwobr Celf Drochol a Realiti Estynedig Gorau 2022’, ac mae wedi ymddangos yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Melbourne, Gŵyl Ffilmiau Byrion Aesthetica, DocFest Sheffield 2022, a gŵyl ddigidol re;publica yn Berlin.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Pilot Theatre
Hyd: 12 munud
Maint amddiffynnwr: Ffin lonydd
Thema/Pwnc: Tirwedd, Barddoniaeth, Straeon Merched, Cryfder
Rhybudd Cynnwys: Amherthnasol
Mrs Sherlock Holmes
Mae’r gêm ar ddechrau! Ymunwch â’r Baker Street Irregulars yn swyddfa Sherlock Holmes yn 221B Baker Street i fwynhau sgwrs gerddorol ffraeth rhwng tair menyw allweddol ym mywyd y ditectif enwog, Mr Sherlock Holmes.
Yn y profiad theatr gerdd trochol yma, mae Irene Adler, Mrs Watson, a Mrs Hudson yn camu i’r llwyfan i adrodd hanes gwrthdaro olaf Sherlock Holmes gyda’r Athro Moriarty dieflig yn Rhaeadr Reichenbach. Mae Mr Sherlock Holmes wedi dychwelyd i Baker Street ar ôl bod i ffwrdd am dair blynedd. Rydyn ni’n awgrymu beth allai fod wedi digwydd yn y cyfamser...
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Dillmeadow Media
Hyd: 13 munud
Maint amddiffynnwr: Ffin lonydd
Thema/Pwnc: Sioe Gerdd, Ffuglen
Rhybudd Cynnwys: Effeithiau sain saethu gwn.
StoryTrails: The Peoples’ Map
Detholiad o straeon o’n map gofodol sinema trochol o’n taith yw StoryTrails: The People’s Map. Cynhyrchwyd y mapiau yma drwy guradu detholiad o straeon sain anhygoel gan bobl ym mhob tre a dinas, gan lynu’r straeon sain yma i gyfres o fodelau 3D o wahanol lefydd, gwrthrychau, a phobl ledled gwledydd Prydain
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: ISO a StoryFutures
Hyd: 1 ffilm tua 15 munud
Thema/Pwnc: Straeon go iawn
Rhybudd Cynnwys: Gallai achosi ychydig o gyfog. Iaith ysgafn. Gallai sganiau 3D beri gofid i rai.
This is Your Country Too
Rydyn ni’n ymgorffori bachgen yn ei arddegau sy’n edrych yn ôl ar ei gyfnod yn sownd yn y limbo diwladwriaeth ar y cam mewnfudo mewn maes awyr ym Mhrydain – fel Tom Hanks yn ffilm The Terminal.
Comedi ryngweithiol yw This Is Your Country Too, wedi’i haddasu o ddrama radio’r BBC. Mae’n dychan y system fewnfudo a sut caiff ein hunaniaeth ei ddiffinio gan ddieithriaid yn y pen draw. Mae’n seiliedig ar brofiadau mudwyr Asiaidd ôl-drefedigaethol o Ddwyrain Affrica, ar ôl i lywodraeth y DU israddio eu dinasyddiaeth Brydeinig yn y 1960au mewn ymateb i’r mewnlifiad sydyn o filoedd o bobl nad oedden nhw’n wyn.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Strictly Immersive
Hyd: 13 munud
Thema/Pwnc: Mewnfudo, Hiliaeth/Cydraddoldeb, Hiwmor, Goresgyn Adfyd
Rhybudd Cynnwys: Amherthnasol
UnEarthed: The Beetle Story
Mae UnEarthed: The Beetle Story wedi’i ddylunio i ysbrydoli pobl i barchu, amddiffyn ac adfer y blaned, ac mae’n un dilyniant o antur aml-stori wedi’i osod ar draws yr Amazon a Choedwig Genedlaethol Tongass.
Mae’r chwaraewr yn gynorthwyydd ymchwil newydd, sy’n dilyn ‘Yr Athro’ – sef arbenigwr bioamrywiaeth mwyaf blaenllaw’r byd – i gasglu ymchwil a dysgu am fioamrywiaeth. Caiff yr Athro ei chwarae gan Indira Varma (Game of Thrones ar HBO, Obi-Wan Kenobi ar Disney+) ac fe gawn ein tywys gan yr Ecobot, Hazzi, sef droid wedi’i greu gan yr Athro, gyda llais Richard Ayoade (Soul ar Pixar, a The Mandalorian ar Disney+’).
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Factory42
Hyd: 15 munud
Thema/Pwnc: Amgylchedd, Antur
Rhybudd Cynnwys: Teimlad o hedfan (cyfog posib)
When Something Happens
Ffilm fer realiti rhithwir yw "When Something Happens..." sy’n mynd â’r defnyddiwr ar daith epig drwy hanes y cosmos ar ffurf barddoniaeth, cerddoriaeth ac animeiddiad steilus. Mae cyfreithiau astroffiseg yn eang, yn gymhleth, ac weithiau’n llethol. Mae ein bodolaeth yn cael ei gwasgu’n bersbectif yn syth pan fyddwn ni’n ceisio dirnad ehangder ein bydysawd estynedig.
Rydyn ni’n mynd i grynhoi’r hanes yma ac ysgogi ymateb emosiynol gan y gwylwyr. Ein nod yw trochi’r gynulleidfa mewn profiad 360 sy’n ymgorffori trac sain unigryw, animeiddiad, a thechnoleg flaengar.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Boom Clap Play
Hyd: 8 munud
Thema/Pwnc: Gwyddoniaeth, Hanes, Gair Llafar
Rhybudd Cynnwys: Mae rhai delweddau fflachio yn yr olygfa gyntaf, ond dim goleuadau strob
Get Punked!
Darllenwch ddyddiadur Alex o’r 1970au a’r 80au pan roedd hi yn ei harddegau. Darganfyddwch fyd cerddoriaeth pync o ystafell fyw ei mam i far seler.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: Visualise
Hyd: 10 munud
Thema/Pwnc: Cerddoriaeth (Pync), Hanes
Rhybudd cynnwys: Dim
Kindred
Yn seiliedig ar stori wir anhygoel rhiant dyheadol o’r enw Syd, a’u taith arloesol drwy’r broses fabwysiadu yn y DU, gan brofi’n uniongyrchol uchafbwyntiau ac isafbwyntiau breuddwyd mae cynifer yn ei rhannu. Ar ôl blynyddoedd o anffawd a gwrthod, mae Syd yn cael eu paru â phlentyn, Ollie, ac yn ystod y broses mae’n helpu i ailddiffinio ystyr teulu.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: Electric Skies
Hyd: 10 munud
Thema/Pwnc: Teulu, Mabwysiadu, LHDTC+
Rhybudd cynnwys: Symudiad hedfan (cyfog posibl)
Laika
Laika oedd y creadur byw cyntaf a gafodd ei anfon gan bobl i’r gofod. Dros nos, daeth ci strae dieisiau a digariad a oedd wedi goroesi ar strydoedd Moscow y ci mwyaf enwog yn y byd. Wedi’i addasu o nofel graffig Nick Abadzis o 2007, mae Laika yn hanes trasig am gariad, dynoliaeth ddwfn a chenhadaeth a gyhoeddodd oes newydd o wybodaeth, technoleg a’r ras dros oruchafiaeth filwrol.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: StoryFutures
Hyd: 18 munud
Thema/Pwnc: Stori wir, Teithio yn y gofod
Rhybudd cynnwys: Uchder, Gofod caeëdig, Marwolaeth a pherygl i anifeiliaid
Life Cycles
Mae Life Cycles yn mynd â chi ar daith drwy amser, gan archwilio’r effaith y gall dwy olwyn a ffrâm ei chael ar adeiladwaith ein diwylliant. Rhowch gynnig ar droi’r cinemascope, pwmpio teiar ac actifadu’r ddinas drwy hud olrhain llaw.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: Surround Vision
Hyd: 10 munud
Thema/Pwnc: Hanes, Beicio
Rhybudd cynnwys: Dim
Locker room: Rumble in the Jungle
Rydyn ni’n mynd â chi’n ôl. Yn beeeeeeell bell yn ôl. I 1974. I le o’r enw Zaire. I’r rymbl yn y jyngl. Mae LockerRoom yn eich gwahodd chi i gamu i esgidiau Muhammad Ali yn yr eiliadau cyn brwydr fwyaf ei fywyd. Camwch i’r gofod mwyaf cysegredig ym myd chwaraeon, yr Ystafell Loceri. Byddwch yn gwneud ymarferion, yn rhyngweithio gyda gwrthrychau 3D, ac yn ymgolli yn nhaith Ali a’i ddyn cornel a arweiniodd at yr eiliad dyngedfennol yma.
Ymgollwch mewn deunydd dilys o’r archif, a rhyngweithiwch gydag efeilliaid digidol memorabilia gwreiddiol, gan gynnwys y ‘faneg hollt’ enwog oedd ar law Ali yn ei frwydr yn erbyn y pencampwr pwysau trwm o Brydain, Henry Cooper.
Yn addas i bob cynulleidfa Realiti Rhithwir | Cynhyrchwyd gan: Rematch
Hyd: 12 munud
Thema/Pwnc: Bocsio, Hanes, Achosion Dyngarol, Hawliau sifil
Rhybudd Cynnwys: Arnofio (gall achosi teimlad o anghydbwysedd)
Missing 10 Hours
Prosiect Realiti Rhithwir naratif â sawl diweddglo posib yw M10H (Missing 10 Hours), sydd wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â seicolegwyr ac arbenigwyr. Mae’r ymwelydd yn gweld Mara, menyw 22 oed, yn araf golli rheolaeth o’i gweithredoedd. Mae rhywun wedi rhoi’r cyffur ‘treisio-ar-ddêt’ GHB iddi, cyffur sy’n cael ei ddefnyddio gan amlaf ar gyfer ymosodiadau rhywiol.
Mae’r pŵer i newid sut mae’r noson yn datblygu yn nwylo’r ymwelydd. Ond a fyddan nhw’n aros ar y llwybr moesegol os yw’r cymeriadau eraill yn datgelu posibiliadau newydd? Yn ystod y llinell stori aml-ddiweddglo, mae’n rhaid i’r defnyddiwr feddwl, ymateb, a herio eu hunain.
Cynhyrchwyd gan: Electric Skies a RumeX | Addas i bobl dros 18 oed
Hyd: 15 munud
Thema/Pwnc: Sbeicio Diod, Mannau Diogel, Hawliau Merched, Gêm Chwarae Rôl
Rhybudd Cynnwys: Alcohol, cyffuriau, bwlio ac aflonyddu.
Off The Record
Archwiliad archifol VR yn dathlu pobl Brydeinig o Dde Asia a’u treftadaeth cerddorol cyfoethog. Mae’r profiad yma’n dilyn datblygiad Bhangra a cherddorion tanddaearol Asiaidd o’r 1970au i rêfs llawen yn ystod y dydd ar ddechrau 2000au.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: No Ghost
Hyd: 10 munud
Thema/Pwnc: Cerddoriaeth (Bhangra), Hanes
Rhybudd cynnwys: Goleuadau sy’n fflachio a strôb (rhan olaf – gig byw)
Promenade
Mae Promenade yn ymdrochi’r gwyliwr mewn cyfres o olygfeydd dinasol wedi’u dadadeiladu i adrodd stori heb ei hadrodd am gefndir yr artist Mike Hajtoullis, gan godi o weithiwr bwyty mewnfudol Groegaidd ail genhedlaeth yn ystod hafddydd Blackpool yn y 1950au i ddod yn Wneuthurwr Print a Dylunydd Tecstiliau RCA.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: Shroom Studio
Hyd: 10 munud
Thema/Pwnc: Celf, Blackpool, Mewnfudo
Rhybudd cynnwys: Amgylchedd ysgogol yn weledol gyda siapiau geometrig du a gwyn sy’n symud
Three Lights
Drama amser rhyfel realiti rhithwir a rhyngweithiol yw Three Lights am fywydau tri milwr Prydeinig, mis ar ôl Brwydr y Somme. Archwiliad o deulu, cariad a bywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf sydd weithiau’n ddewr, weithiau’n hudol ond bob amser yn wir.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: Virtus Studios ac Electric Skies
Hyd: 9 munud
Thema/Pwnc: Hanes, Rhyfel
Rhybudd cynnwys: Delweddau o ryfel a thrafodaeth amdani
The Museum of Imagined Futures
Camwch i mewn i The Museum of Imagined Futures sy’n arddangos rhagfynegiadau i’r dyfodol ac yn galluogi ymwelwyr i gamu ymlaen mewn amser i gael cipolwg o sut y gall pobl a thechnoleg fyw mewn cydbwysedd â natur.
Yn addas i bob cynulleidfa VR | Cynhyrchwyd gan: Indigo Storm a Studio ANRK
Hyd: 9 munud
Thema/Pwnc: Yr amgylchedd
Rhybudd cynnwys: Uchder a chyfog oherwydd symudiad lleihau yn adran y goedwig
"It’s just brilliant to see these immersive opportunities being presented and made available for everyone."
Amseroedd agor:
Llun – Sad 11am – 6.30pm (mynediad olaf 6pm)
Sul 11am – 4.30pm (mynediad olaf 4pm)
Does dim angen archebu.
Capasiti: Mae capasiti pob profiad yn gyfyngedig felly mae’n bosibl y bydd rhad aros pan fydd hi’n brysur.
Canllaw oed: Ni argymhellir VR i blant o dan 10 oed. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd. Mae gan bob profiad unigol ganllaw oed a rhybuddion manylach.
Cefnogir StoryFutures Xperience gan y BFI, drwy gyllid gan y Loteri Genedlaethol.
BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?
Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.
OES ANGEN ARCHEBU LLE?
Mae hwn yn brofiad cerdded i mewn rhad ac am ddim, does dim angen archebu.
OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?
Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.
BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.
Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.
Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 10 oed.
Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.
Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.