Mae The Nature of Why wedi cael ei ddisgrifio fel profiad wirioneddol arloesol ac ymdrochol, ac mae'n dod i'n Stiwdio Weston am dair noson yn unig (9-11 Mai).
Nid bob dydd y mae rhywun yn cael y cyfle i gamu ar lwyfan mewn gig neu ymuno â'r dawnswyr yn ystod perfformiad dawns... ond dyma'ch cyfle chi.
Dyma Lloyd Coleman, cyfansoddwr, offerynnwr a Chyfarwyddwr Cerdd Gyswllt y Baragerddorfa i rannu ei deimladau ef am yr hyn sy'n gwneud y perfformiad yma yn un mor arbennig...
1. Y Gerddoriaeth
Daw sgôr chwareus a lliwgar Will Gregory yn fyw drwy ddawn cerddorion y Baragerddorfa. Dyma gerddoriaeth sydd angen ei phrofi'n fyw.
Gyda churiadau grymus, rhannau unigol epig ar y gitâr, a sgôr bas sy'n gyrru'r gerddoriaeth, dyma ddarn sinematig deimladwy.
2. Y Symudiad
Mwynhewch berfformiad unigryw wrth i'r cerddorion a'r dawnswyr uno a symud yn un.
Gyda choreograffi gan Caroline Bowditch, gallwch ddisgwyl yr annisgwyl, wrth i'r cantorion orwedd ar eu cefnau, basau dwbl basio dros bennau’r bobl a marimbas yn troelli ar eu holwynion!
3. Y Profiad Ymdrochol
Mae pob aelod o'r gynulleidfa wrth galon y sioe yma, wrth i'r dawnswyr, cerddorion a chithau rannu'r gofod perfformio.
Byddwch yn agos at y ddrama a gwyliwch yr holl beth yn datblygu o flaen eich llygaid drwy'r profiad hollol ymdrochol yma.