Mae’n anodd dod o hyd i’r anrheg berffaith ac mae’n siŵr bod gennych lond drôr o sanau yn barod. Felly dyma ambell syniad i roi ysbrydoliaeth i chi.
1. PRYNWCH AELODAETH FEL RHODD
Beth am anrheg sy’n ddefnyddiol dro ar ôl tro? Gyda blaenoriaeth archebu ar amrywiaeth o berfformiadau a gostyngiad o 20% ar fwyd a diod yn ein bariau a bwyty, mae aelodaeth y Ganolfan yn anrheg Nadolig arbennig iawn.
2. Sioeau i'r rheiny sy'n dwlu ar ddawns
Caru dawns? Byddwch yn dwlu ar y sioeau dawns anhygoel sy'n dod i'r Ganolfan yn 2020. Byddwn yn croesawu'r maestro ei hun, Brendan Cole: Showman, yr anhygoel AJ Live ym mis Mawrth a bydd popeth yn troi'n ddisglair pan ddaw Strictly Ballroom The Musical i'r brifddinas.
3. Bloeddiwch a byddwch fywiog gyda Jamie
18 - 23 Mai 2020
Mae'r sioe gerdd West End hynod boblogaidd, uchel ei chlod am yr harddegwr Jamie New, sydd ddim yn teimlo ei fod yn ffitio i mewn... yn dod i Gaerdydd, ac yn serennu Layton Williams a Shane Richie. Peidiwch â cholli'r sioe wefreiddiol yma ar gyfer y teulu.
4. PRYNWCH DALEB RHODD
I’r rheiny sy’n frwd dros theatr… Codwch wên eleni gyda phrofiad theatr fyw. Cewch ddefnyddio talebau rhodd i brynu tocynnau sioe, bwyd, diod a hyd yn oed aelodaeth.
5. Ewch i lawr i ddyfnderoedd tŷ'r Opera gyda Phantom
9 Rhagfyr 2020 - 16 Ionawr 2021
Mae'r cynhyrchiad gwreiddiol anhygoel o Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber yn dod yma i'r Ganolfan yn 2020. Rhowch rhodd i berson arbennig eleni gyda thocynnau i'r sioe wefreiddiol yma.
6. TREFNWCH DAITH GEFN LLWYFAN SY’N WAHANOL I’R ARFER
Yn berffaith ar gyfer yr anturiaethus... beth am brynu cyfle i rywun fynd ar daith ac archwilio dyfneroedd sy'n cuddio tu ôl i len un o adeiladau mwyaf eiconig y wlad.
7. Troellwch i fyd peryglus gyda The Beauty Parade
5 - 14 Mawrth 2020
Dilynwch daith tair menyw anhygoel a chafodd eu parasiwtio tu ôl i linellau'r gelyn a ddaeth yn sabotwyr ac yn llofruddion tawel yn ein cynhyrchiad gafaelgar newydd gan y gwneuthurwr theatr arloesol, Kaite O'Reilly.
8. Byddwch yn bryfoclyd gyda'r Mormoniaid
3 - 28 Tachwedd 2020
Mae'r Mormoniaid yn dod i Gaerdydd! Mae'r sioe gerdd gomedi yma gan grewyr South Park, Trey Parker a Matt Stone, a Bobby Lopez - cyd-awdur Avenue Q a Frozen - yn dilyn anffawd pâr o genhadwyr, sydd wedi eu danfon ar genhadaeth i le sydd mor bell o Salt Lake City ag sy’n bosib.