Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

GOFALWYR IFANC YN CYMRYD RHAN YN LLAIS CREADIGOL

Ym mis Tachwedd 2022 cydweithiodd naw gofalwr ifanc o YMCA Abertawe â’r fideograffydd proffesiynol Jamie Panton a’r canwr a chyfansoddwr Mojo JNR i gynhyrchu fideo cerddoriaeth ar gyfer ei gân ddiweddaraf, Monaco.  

Drwy gyfres o weithdai creu fideos dynamig a chyflym fel rhan o raglen Llais Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru, dysgodd y bobl ifanc am hanfodion saethu fideo cerddoriaeth creadigol, a chawsant y wybodaeth a’r sgiliau i ddechrau creu eu fideos eu hunain.  

Cafodd y darpar fideograffwyr gipolwg manwl ar bob agwedd o’r broses greadigol o saethu fideos cerddoriaeth, o osod saethiad i olygu, goleuo a gwaith cyn-gynhyrchu.  

"Y peth gorau am y cwrs oedd dysgu awgrymiadau golygu gan Jamie y galla i eu defnyddio yn fy ngwaith fy hun. Ac mae e’n eitha’ cŵl hefyd!"

Mia, gofalwr ifanc

Cafodd y bobl ifanc brofiad ymarferol gydag offer gwerthfawr a chawsant y cyfle i roi eu stamp creadigol eu hunain ar y fideo, gan weithio ochr yn ochr â Jamie a Mojo JNR i ffurfio’r cynnyrch terfynol. 

"Wir wedi mwynhau’r gweithdy ac roeddwn i wrth fy modd â’r canlyniad!"

Josh, gofalwr ifanc 

Gwyliwch y fideo cerddoriaeth gorffenedig yma:

Roedd ein tîm Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wrth eu bodd i roi’r cyfle yma i ofalwyr ifanc o YMCA Abertawe drwy ein rhaglen Llais Creadigol, ac i gydweithio â’r gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth Mojo JNR a Jamie Panton, a arweiniodd y cwrs. 

Rydyn ni’n parhau i weithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddarparu profiadau o ansawdd er mwyn i bobl ifanc ddysgu a datblygu eu gwybodaeth am amrywiaeth o sgiliau yn y diwydiant creadigol, ac rydyn ni’n croesawu partneriaid newydd a hoffai gymryd rhan.  

Gofalwyr ifanc YMCA Abertawe 

Mae YMCA Abertawe yn darparu cymorth wedi’i deilwra i ofalwyr ifanc 8–18 oed sy’n gofalu am aelod o’u teulu sydd â salwch hirdymor, anabledd, cyflwr iechyd meddwl a/neu ddibyniaeth ar sylweddau. 

Nod YMCA Abertawe yw nodi a darparu cymorth priodol i bob gofalwr ifanc. Dysgwch fwy am eu gwasanaethau yma. 

Llais Creadigol 

Llais Creadigol yw ein rhaglen hyfforddiant unigryw rad ac am ddim sy’n rhoi llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Dysgwch fwy am Llais Creadigol a’n cyrsiau sydd ar ddod yma.