Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ydych chi am gael profiad ymarferol o’r diwydiannau creadigol? Efallai eich bod chi am ofyn i weithwyr proffesiynol y sector am eu gwaith. Dyma’ch cyfle chi, gyda’n digwyddiadau Life Hack.

Mae Life Hack yn ddigwyddiad ysbrydoledig, am ddim sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gyfarfod gweithwyr proffesiynol y diwydiannau creadigol a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol, rhyngweithiol. Cafodd ei eni a’i ddatblygu yng Nghymoedd y Rhondda drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd.

Mae Life Hack yn ddigwyddiad ysbrydoledig rhad ac am ddim i bobl ifanc gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol, rhyngweithiol.

Rydyn ni’n cydweithio ag arbenigwyr o feysydd theatr, dawns, radio, ffilm, comedi a dylunio a llawer mwy.

Ym mis Ebrill 2021, fe gynhalion ni ein digwyddiad Life Hack digidol cyntaf. Roedd modd i bobl ifanc ledled y byd gymryd rhan ar-lein. 

Cynhaliwyd ein digwyddiad diweddaraf yn Y Ffatri, Porth ym mis Chwefror 2023. Cadwch lygad ar ein gwefan i ddarganfod pryd fydd yr Life Hack nesaf!

I BWY?

Mae ein digwyddiadau yn agored i unrhyw un 14-25 mlwydd oed o bob cefndir ac o bob cwr o Gymru.

Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at lefel mynediad ac wedi’i deilwra ar gyfer y chwilfrydig, y rheiny sy’n gychwynwyr neu’r rheiny sydd am ddiweddaru eu sgiliau.

Hacio Bywyd yn Cyflwyno

Yw ein gweithdai blasu a gynhelir ar draws de Cymru, gan gynnwys sesiynau ym mhob maes o’r diwydiannau creadigol.

Os oes gennych chi syniad ar gyfer gweithdy neu os ydych chi am drefnu rhywbeth penodol ar gyfer eich ysgol chi, cysylltwch â ni am sgwrs.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Life Hack e-bostiwch togetherstronger@wmc.org.uk.

Mae Yn Gryfach Ynghyd yn bartneriaeth rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Phlant y Cymoedd, wedi’i chynllunio i greu cyfleoedd i bobl ifanc yn y cymoedd a gyflwynir yn bennaf gan Sparc a’n Tîm Dysgu Creadigol.