Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Carnifal Trebiwt 2021

Mae’r haul yn tywynu ac mae ‘na awyrgylch carnifal mis Awst o’n cwmpas! Ymunwch â ni am hwyl, diwylliant a cherddoriaeth byw gymunedol ddydd Sul 29 a dydd Llun 30 Awst.

Ar ddydd Sul, yn dechrau am 12pm o'r Ganolfan, bydd parêd Carnifal Trebiwt 2021 yn gorymdeithio ar hyd glannau Bae Caerdydd tuag at yr Eglwys Norwyaidd gyda sawl saib perfformio ar y ffordd, cyn cyrraedd nôl ger y Ganolfan tuag 1pm yn barod ar gyfer cerddoriaeth byw ar lwyfan tu allan i flaen yr adeilad.

Mae'r cyfranogwyr yn bennaf yn blant a theuluoedd sydd wedi bod yn rhan o weithdai creu gwisgoedd yn Hwb Pafiliwn Trebiwt, Canolfan Ffoaduriaid Oasis yn y Sblot, a Pedal Power ym Mhontcanna, lle helpodd oedolion ag anhawsterau dysgu i addurno'r beiciau tandem a ddefnyddir.

Weithdai creu gwisgoedd
Weithdai creu gwisgoedd

Mae'r parêd eleni yn cynnwys tair adran — 'Phoenix', 'Moa' a 'Sea Shanty' — gyda dros 100 o bobl o'r gymuned leol a phum grŵp gerddorol a dawns yn cymryd rhan. Bydd yr artistiaid lleol Alice a Niki Fogaty a June Campbell-Davies yn arwain eu hadrannau cymunedol yn eu tro.

Bydd bandiau'r parêd yn cynnwys Samba Galez, Barracwda, Wonderbrass, Successors of the Mandingue, a Bass 12 a fydd yn chwarae cyfansoddiad arbennig gan Jefferson Lobo a dawns wedi'i choreograffu gan June Campbell-Davies.

Artistiaid yn cynnwys: Asheber and the Afrikan Revolution, Akabu, Successors of the Mandingue, Leighton Jones, Black Elvis, Callaloo, Jefferson Lobo, Rufus Mufasa, Korason, Luchia, Charlotte Fahey, Lucas J Rowe, Oasis One World Choir a mwy!

Keith Murrell
Keith Murrell

Gwyliwch fideo gyda threfnydd y carnifal, Keith Murrell yn esbonio’r hyn sy’n digwydd yng ngharnifal eleni.

Ceir dewis eang o gerddoriaeth eleni, sy’n fyw ar ein llwyfan tu fas rhwng 2-8pm ddydd Sul a dydd Llun.

Ac os ydych chi eisiau bwyd, mae ‘na ddiodydd a bwyd stryd blasus ar gael yn ein lleoliad tu fas, Teras.

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Celf a Diwylliant Trebiwt a Chyngor Celfyddydau Cymru