Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynllun Gweithredu Amrywiaeth

Mae angen i becyn cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer y celfyddydau a threftadaeth, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, gael ei ddefnyddio i adeiladu sector celfyddydau newydd, radical, a mwy cynhwysol. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cymryd ei rhan hi o’r cyfrifoldeb hwnnw o ddifri.

Yn dilyn ein Datganiad Amrywiaeth a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf, rydyn ni wedi creu Cynllun Gweithredu Amrywiaeth. Bwriad y cynllun yw sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru – ei gweithgaredd a’i staff – yn fwy cynhwysol. Cyflwynwn brif elfennau ein cynllun isod.

Yn y cyd-destun yma, mae amrywiaeth yn golygu democrateiddio'r hyn yr ydym a’r hyn a wnawn. Cyfeiria’r cynllun at bobl ‘o gefndiroedd amrywiol’. Gyda’r term yma, golygwn, gan amlaf, pobl Dduon, Asiaidd ac amrywiol ethnig, yn ogystal â phobl ag anableddau, phobl â nodweddion gwarchodedig neu’r rheiny sydd o gefndiroedd incwm isel.

Defnyddiwn y derminoleg ‘pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig amrywiol’. Mae acronymau yn lleihau’r ystyr, ac ar ôl gwrando’n astud i’r drafodaeth genedlaethol barhaus ynglŷn ag iaith a hil – a drwy wrando ar ein cydweithwyr – penderfynom ddefnyddio’r term yma am y tro.

Byddwn yn parhau i wrando ar y drafodaeth genedlaethol er mwyn canfod iaith sy’n gynhwysol ac yn fanwl gywir. Rydyn yn cydnabod ac yn diolch y grwpiau ac unigolion hynny sydd wedi rhannu o’u profiadau a’u safbwyntiau. Rhoddodd hyn sail i’n gwaith.

Adeiladu’r sylfeini

Byddwn yn buddsoddi mewn hyfforddiant. A hynny er mwyn addysgu ein staff a’n rhanddeiliaid am y pŵer a’r fraint sydd wrth wraidd ein sefydliad cyfredol.

Bydd ein holl staff, rheolwyr, y Tîm Rheoli Uwch ac aelodau’n Bwrdd yn derbyn hyfforddiant gwrth-hiliaeth a hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod yn rheolaidd. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr a chanddynt brofiad ymarferol.

Bydd amrywiaeth a chynhwysiant yn elfennau allweddol o’n system adolygu perfformiad. A hynny er mwyn sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o bob agwedd o waith ein staff. Mae llywodraethu yn allweddol er mwyn symud y gwaith yma yn ei flaen.

Byddwn yn adolygu’r broses recriwtio ar gyfer aelodau Bwrdd ac yn sicrhau amrywiaeth ar y lefel uchaf.

Byddwn yn ymgysylltu mewn ffordd fwy ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd ac amrywiol ethnig sydd wedi ei chael hi’n anodd gweithio gyda ni neu o fewn y sector.

Rydyn ni'n cydnabod ac yn cefnogi 10 Cam at Droi Cymru yn Genedl Wrth-hiliol gan Gynghrair Hil Cymru; dyma raglen hynod werthfawr i’n sefydliad a sefydliadau eraill tebyg.

Caiff y gwaith yma ei gefnogi drwy gasglu data yn fwy effeithiol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i fod yn fwy tryloyw ynglŷn â phwy rydyn ni’n gweithio gyda, ac i fynd i’r afael â materion amrywiaeth.

Rhoi llais i bawb

Rydyn ni am greu fwy o gyfleoedd ar gyfer pobl dalentog o gefndiroedd amrywiol, gan feithrin creadigrwydd a darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a chyflogaeth.

Byddwn yn democrateiddio ein systemau a’n prosesau er mwyn creu gofod ar gyfer mwy o leisiau. Mae hyn yn cychwyn gyda chydnabod, gwrando a dysgu o brofiadau ein cydweithwyr a chanddynt brofiad ymarferol o wahaniaethu a hiliaeth.

Byddwn yn darparu mwy o ofod i bobl gynnal gweithgareddau, dangos eu gwaith a theimlo’n gartrefol. Byddwn yn defnyddio cyllideb cyfranogi a chyd-adeiladu er mwyn ein helpu ni i ddatblygu’r gwaith yma gyda chymunedau ac unigolion amrywiol.

Côr Un Byd Oasis yn dawnsio ym Mhicnic Carnifal Trebiwt, Awst 2020
Côr Un Byd Oasis yn dawnsio ym Mhicnic Carnifal Trebiwt, Awst 2020

Hoffem hefyd gynyddu’r ymgysylltiad sydd rhyngom ni a’n cymunedau lleol. Gwnawn hyn drwy hyrwyddo cyfleoedd i staff wirfoddoli mewn digwyddiadau – er mwyn adeiladu cysylltiadau, cychwyn sgyrsiau a darparu gofod anffurfiol i ddysgu a rhannu ynghyd.

Byddwn yn chwalu camsyniadau drwy wahodd ein gweithwyr i wrando ar brofiadau ymarferol pobl ag anableddau (anableddau golwg ac anableddau eraill). Byddwn hefyd yn cydweithio â sefydliadau eraill ar ddigwyddiadau ymwybyddiaeth.

Byddwn yn parhau i gynnig cyrsiau hyfforddi, megis hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain (BSL),  i’n staff. Byddwn yn derbyn cefnogaeth gan bartneriaid o Deaf Hub Wales a Taking Flight i sicrhau bod yr hyfforddiant yma’n sail i’n gwaith – megis negodi gyda chynhyrchwyr i wella hygyrchedd pan welwn fylchau yn y ddarpariaeth.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn casglu adborth ac yn ei rannu ar lefel uchaf y sefydliad. Bydd hyn yn ysgogi newid cadarnhaol ac yn sicrhau ein bod yn cynnwys lleisiau pawb sy’n ymwneud â ni. Rydyn ni wrthi’n creu Cyngor Ieuenctid amrywiol a fydd yn gosod y lleisiau hyn wrth wraidd penderfyniadau ledled y sefydliad.

Byddwn yn creu ac yn rhaglennu gwaith sy’n amrywiol ac yn gynhwysol o ran ei themâu, ei greadigaeth a’i gyflwyniad. Byddwn yn cydweithio ag artistiaid a chynulleidfaoedd a chanddynt brofiad ymarferol, er mwyn adolygu ein gwaith hyd heddiw.

Byddwn yn dadansoddi rhagdybiaethau a rhwystrau presennol sy’n atal ymgysylltiad, ac yn cytuno ar y meysydd sydd angen eu blaenoriaethu.

Byddwn yn ffurfioli ein perthynas gyda Llysgenhadon Cymunedol, Artistiaid Cyswllt a’n Cyngor Ieuenctid fel eu bod nhw’n cymryd rhan yn ein penderfyniadau parthed rhaglennu a chynhyrchu, ac yn derbyn tâl am y gwaith. Bydd hyn yn ehangu ein gorwelion a’n ffordd o feddwl.

Byddwn yn parhau i adeiladu cysylltiadau a phartneriaethau  gyda sefydliadau er mwyn cysylltu â grwpiau mwy amrywiol o bobl ifanc. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod yr artistiaid ac ymarferwyr creadigol sy’n cydweithio ar ein rhaglenni yn dod o gefndiroedd amrywiol. Bob blwyddyn byddwn yn cyhoeddi ein rhaglenni o waith arfaethedig

Gwireddu hyn

Gwyddwn fod telerau ac amodau cyflogaeth ac awyrgylch y gweithle yn hollbwysig wrth frwydro yn erbyn anghydraddoldeb systemig.

Rydyn ni wedi cyflwyno cyfradd y Cyflog Byw Go Iawn i’n staff ac yn gweithio gyda Citizens Cymru Wales er mwyn dyfod yn gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn achrededig. Gyda phob tendr y dyfodol byddwn yn datgan ein bod ni fel sefydliad yn blaenoriaethu contractwyr sy’n talu’r Cyflog Byw Go Iawn.

Byddwn yn buddsoddi mewn gwella ein prosesau a systemau recriwtio. Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth am swyddi gwag ar gael yn eang, ac yn derbyn CVs sy’n cuddio enw a chyfeiriad unigolion.

Bydd ein tîm Adnoddau Dynol yn defnyddio gweithredu cadarnhaol er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o ymgeiswyr Du, Asiaidd ac amrywiol ethnig ar y rhestr fer. Byddant hefyd yn darparu hyfforddiant ymlaen llaw i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli  ac sydd am ymgeisio am swydd gyda ni.

Byddwn yn adolygu ein proses recriwtio – o’r broses o wneud cais i’r deunyddiau marchnata cysylltiedig – er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch.

Byddwn yn cymryd cyngor gan bartneriaid ynglŷn ag arfer orau, a hynny o ran gwella profiadau pobl ag anableddau sy’n ymweld â ni, a datblygu sgiliau ein staff er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a gwella ein ffyrdd o weithio.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Jobcentre Plus a Create Jobs i ddatblygu ein rhaglenni mentora ymhellach.

Sesiwn mentora JobCentre Plus, yn gynt yn 2020
Peilot o raglen fentora wedi’i chynnal mewn partneriaeth â JobCentre Plus, oedd yn ffocysu yn arbennig ar gefnogi ymgeiswyr o gymunedau Duon, Asiaidd ac amrywiol ethnig

Byddwn yn blaenoriaethu sgyrsiau adeiladol gyda chyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol, ac yn ffocysu ar sut y gallwn chwalu’r rhwystrau sy’n bodoli wrth ymgeisio am swydd. Byddwn yn cefnogi dyhead y rheiny sydd am weithio i Ganolfan Mileniwm Cymru neu’r sector ehangach, a fu gynt yn wynebu rhwystr.

Gan fod profiadau gwaith go iawn yn werthfawr, byddwn yn cynnig interniaethau gyda thâl i unigolion Duon, Asiaidd ac amrywiol ethnig, a hynny ledled y sefydliad.

Byddwn yn parhau gyda’r rhaglen brentisiaeth dechnegol sydd eisoes wedi’i sefydlu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro. Fe awn ati i ddatblygu prentisiaeth greadigol iau a beilotwyd yn ddiweddar. Bydd ffocws o’r newydd ar ddenu myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol.

Gan gydweithio ag arweinwyr cymunedol lleol, byddwn yn cynnal gofod rhannu sgiliau a chychwyn busnes i bobl ifanc ddatblygu a chynyddu sgiliau busnes.

Keith Murrell o Gymdeithas Gelfyddydau a Diwylliant Trebiwt gyda’n Uwch Gynhyrchydd Ymgysylltu Cymunedol, Gemma Hicks ym mis Mehefin 2020

Byddwn yn cynnig mentora gan gymheiriaid ac yn cyflogi pobl leol i gydweithio â’r bobl ifanc. Byddwn yn galw ar sefydliadau megis Bectu, Ymddiriedolaeth y Tywysog a Chanolfan Cydweithredol Cymru i gyfrannu.

Gyda chefnogaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rydyn ni’n creu fframwaith iechyd a lles fel blaenoriaeth sefydliadol. Fel rhan o’r fframwaith rydyn ni’n adeiladu partneriaethau gyda sefydliadau megis Stonewall Cymru a Diverse Cymru er mwyn creu gweithle cefnogol i bob un o’n gweithwyr.

Byddwn yn datblygu siarter gweithiwr sy’n hybu ein cyfrifoldebau fel staff o ran amrywiaeth a chynhwysiant, ymgysylltiad ac iechyd a lles. Byddwn yn sefydlu hyrwyddwyr amrywiaeth ar gyfer pob adran. Bydd hyn yn ein helpu ni i greu rhwydweithiau amrywiaeth ac yn annog sgyrsiau a gofod diogel i herio gweithdrefnau a systemau er mwyn ysgogi newid cadarnhaol.

Rydyn yn parhau i fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn dilyn y fframwaith er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein hasesu ar ein ffordd o weithio.

Byddwn yn gweithredu er mwyn creu gweithle cynhwysol. Ymrwymwn i ddarganfod sut y gallwn wneud yn well a sicrhau diwylliant sy’n adlewyrchu amrywiaeth a chynhwysiant ledled ein sefydliad.

Mae ambell beth yn y cynllun yma y gallwn ni ei gyflawni’n gyflym. Rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd mewn ambell elfen o’n gwaith, yn enwedig o ran amrywiaeth a hygyrchedd y rhaglennu’r Stiwdio Weston a Ffresh – ein gofod cabaret.

Ond, er mwyn cyflawni amcanion y cynllun hwn rydyn ni’n cydnabod y bydd angen i ni wneud gwaith manwl, hirdymor gyda gofal. Rydyn ni’n benderfynol o wireddu’r cynllun, er mwyn gwella amrywiaeth ein gwaith a’n staff.