Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Lleisiau dros Newid...Dyma’ch stori chi hyd yma

Rydyn ni wedi cael ein rhyfeddu gan amrywiaeth ac ansawdd y gwaith rydych chi i gyd wedi bod yn ei anfon aton ni hyd yma ar gyfer prosiect Lleisiau dros Newid. Dyma’ch stori CHI hyd yma...

Anfonodd Ace Jones o Gwmni Theatr Ieuenctid Rising Stars y perfformiad hyfryd yma o gerdd The Rainbow Children am blant sydd wedi bod yn byw drwy sefyllfa bresennol y coronafeirws.

Rydyn ni wedi cael gwaith celf anhygoel gennych hefyd. Os ydych chi’n ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bosib eich bod chi wedi gweld portread llachar Keith Murrell o’r enw 'King Nebuchadnezzar’s Nemesis' yn barod.

Dyma ddehongliad Keith o ddamcaniaethau cynllwyn dystopaidd – ac roedd ffrind iddo’n credu ei fod yn edrych fel y Dewin Oz!

Dilynwch ni ar Instagram

Mae Kim o Ddoc Penfro wedi bod yn tynnu lluniau ers i’r cyfnod clo ddechrau. Mae hi newydd gael ei phen-blwydd yn 63 ac mae’n byw ar ei phen ei hunan, felly fe benderfynodd hi wneud prosiect er mwyn cynnal ei hiechyd meddwl, gan dynnu lluniau o bethau oedd hefyd ar eu pennau eu hunain. Dyma ei 50 diwrnod cyntaf mewn lluniau.

"I have found a lot of pleasure in noticing the ordinary, simple things around that perhaps get overlooked in the normal busy days. I hope we can all continue to keep this pleasure in our lives."

Km Evans

Anfonodd yr artist lleol Michael Burgess y ffilm fer yma aton ni sy’n portreadu bywyd ym Mhort Talbot yn ystod cyfnod cynnar y pandemig pan oedd bywyd yn iasol o dawel.

Mae’r awdur llawrydd Edward Lee, sy’n Swyddog Maes a Hyfforddiant ar gyfer Radio Platfform, wedi ysgrifennu stori fer farddonol o’r enw ‘Truth Like Glass’ am rywun yn crwydro drwy Gaerdydd, gan gyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y pen draw. Dyma ddarn byr o’r stori...

I must admit, I’m rather tired from the day’s events, so I take a seat in the final flickers of daylight’s warmth, and let these performers plunge me into another world, if only for an hour or so.

Edward Lee

Anfonodd yr artist Joanne Davies y darlun teimladwy yma o’r enw: Lockdown~Love knows no boundaries #NHS

Lockdown~Love - a painting by Joanne Davies

Anfonodd y cyfansoddwr o Gymro Derri Joseph Lewis addasiad o’i ddarn graddio ar gyfer y Coleg Cerdd a Drama aton ni, sy’n archwilio’r cwestiwn: Allwch chi ddysgu cyfrifiadur i fyrfyfyrio?

Roedd TRI/O i fod i gael ei ddangos am y tro cyntaf fel rhan o ŵyl gerddoriaeth Awyrgylch 2020 ond fe gafodd ei chanslo oherwydd COVID19.

"COVID19 pandemic forced me to create the piece in an entirely new way that is still very fitting to the nature and concept of the work."

Derri Lewis

Cymerodd Derri hyn fel cyfle i ddatblygu’r darn yn waith newydd unigol y byddai modd ei berfformio mewn lleoliadau gyda phellter cymdeithasol ac ar-lein.

Mae’r electroneg yn defnyddio dysgu peirianyddol i ddynwared y ffordd mae cerddorion yn byrfyfyrio

Os yw’r hyn rydych chi wedi’i weld yn eich ysbrydoli chi, fe fydden ni wrth ein boddau yn cael clywed gennych. Anfonwch e-bost aton ni drwy community@wmc.org.uk neu dysgwch ragor am y prosiect yma yn ein blog Lleisiau dros Newid.

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi