Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tri rheswm dros ddod i weld The Nature of Why

Mae The Nature of Why wedi cael ei ddisgrifio fel profiad wirioneddol arloesol ac ymdrochol, ac mae'n dod i'n Stiwdio Weston am dair noson yn unig (9-11 Mai).

Nid bob dydd y mae rhywun yn cael y cyfle i gamu ar lwyfan mewn gig neu ymuno â'r dawnswyr yn ystod perfformiad dawns... ond dyma'ch cyfle chi.

Dyma Lloyd Coleman, cyfansoddwr, offerynnwr a Chyfarwyddwr Cerdd Gyswllt y Baragerddorfa i rannu ei deimladau ef am yr hyn sy'n gwneud y perfformiad yma yn un mor arbennig...

1. Y Gerddoriaeth

Daw sgôr chwareus a lliwgar Will Gregory yn fyw drwy ddawn cerddorion y Baragerddorfa. Dyma gerddoriaeth sydd angen ei phrofi'n fyw.

Gyda churiadau grymus, rhannau unigol epig ar y gitâr, a sgôr bas sy'n gyrru'r gerddoriaeth, dyma ddarn sinematig deimladwy.

2. Y Symudiad

Mwynhewch berfformiad unigryw wrth i'r cerddorion a'r dawnswyr uno a symud yn un.

Gyda choreograffi gan Caroline Bowditch, gallwch ddisgwyl yr annisgwyl, wrth i'r cantorion orwedd ar eu cefnau, basau dwbl basio dros bennau’r bobl a marimbas yn troelli ar eu holwynion!

3. Y Profiad Ymdrochol

Mae pob aelod o'r gynulleidfa wrth galon y sioe yma, wrth i'r dawnswyr, cerddorion a chithau rannu'r gofod perfformio.

Byddwch yn agos at y ddrama a gwyliwch yr holl beth yn datblygu o flaen eich llygaid drwy'r profiad hollol ymdrochol yma.