Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
bokeh light blur

Rydyn ni'n chwilio am guradur arloesol

Bydd Lleisiau Dros Newid yn arddangosfa aml-gyfrwng, dan arweiniad y gymuned, sy’n cyfleu bywydau, gobeithion a breuddwydion ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau ar adeg gwbl ddigynsail.  

Yn ystod y cyfnod clo – cyfnod heb gyswllt – fe ofynnon i’n cynulleidfa gysylltu â ni drwy greu. Mewn cyfnod o fyfyrio, fe ofynnon iddyn nhw edrych i’r dyfodol a theimlo’n rhydd i ddychmygu’r celfyddydau a’r byd o’u hamgylch o’r newydd. 

Cawsom ymateb gwych gan ein cynulleidfaoedd – o gerddoriaeth i weu, dawnsio, barddoniaeth, ffilm, ffotograffiaeth a llawer mwy – a’n nod yw ei arddangos ledled ein hadeilad. Yng nghanol yr arddangosfa byddwn yn cyflwyno coeden crosio enfawr – darn o waith dan arweiniad artistiaid cymunedol. 

Cyfle swydd

Rydyn ni bellach yn chwilio am guradur arloesol, ysbrydoledig, i ddod â holl waith ein cymuned at ei gilydd a’i arddangos. Rydyn ni’n rhagweld y bydd teithiau tywys yn mynd â grwpiau bychan o amgylch ein hadeilad eiconig – i fwynhau’r arddangosfa a fydd, o bosib, ar dri llawr, ac mewn ystod o ystafelloedd gwahanol. 

Rydyn ni’n chwilio am rywun i arwain ar drefnu’r arddangosfa a chreu taith ysbrydoledig i ymwelwyr, sy’n procio’r meddwl ac yn creu cysylltiadau.

Mae hon yn rôl lawrydd anghyfyngedig/rhan amser, yn cydweithio â’n timoedd mewnol, ac yn atebol i Gemma Hicks, ein Cynhyrchydd Ymgysylltu Cymunedol.

Rydyn ni’n cynnig cyfradd fesul diwrnod o £150, yn seiliedig ar oddeutu 40 diwrnod o waith yn ystod y cyfnod yn arwain at yr agoriad. Ar hyn o bryd mae’r agoriad wedi’i gynllunio ar gyfer penwythnos gŵyl y banc ar ddiwedd mis Mai (28 Mai). Bydd y cytundeb hefyd yn cynnwys unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i’r arddangosfa ar ôl yr agoriad.

Mae’r dyddiad cau ar 1 Chwefror. Os ydych chi’n gyffrous yn darllen am yr arddangosfa a’n cynlluniau, hoffem glywed gennych chi. Anfonwch gopi o’ch CV a datganiad o ddiddordeb at: community@wmc.org.uk

Ynghyd â'ch CV, anfonwch ddatganiad o ddiddordeb (ni ddylai fod yn hirach nag un ochr A4) neu fideo 3 munud o hyd, ac fe ddylai gyfleu:

  • Ychydig o wybodaeth amdanoch chi a’ch profiad perthnasol
  • Pam fod y prosiect hwn yn eich cyffroi
  • Beth yw eich dymuniad chi ar gyfer y dyfodol

Byddwn yn gwahodd yr ymgeiswyr hynny yr hoffem glywed rhagor ganddynt am baned dros Zoom.

Gallwch weld ychydig o’r gwaith sydd wedi’i greu’n barod yma.