Ymunwch â Doctor Dolittle a ffrindiau ar chwilfa i ddod o hyd i Pushmi-Pullyu ac achub calon y goedwig… a’r Nadolig!
Mae’r sioe deuluol newydd sbon hon, sy’n llawn comedi a chaneuon gwreiddiol, yn cynnwys rhai o’ch hoff gymeriadau, gan gynnwys Ugly Duckling, Billy Goats Gruff, Three Little Pigs, Nellie the Elephant ac Incy Wincy Spider.
Wedi’i hysbrydoli gan feddyg eiconig Hugh Lofting ac wedi’i pherfformio gan gast mawr o actorion anabl ac nad ydynt yn anabl, mae Doctor Dolittle’s Wild Adventure yn ddathliad llawen a bywiog o’r byd naturiol a’i holl greaduriaid lliwgar.
Datffrwynwch eich ochr wyllt y Nadolig hwn!
Amser dechrau:
Iau – Sadwrn 7pm
Sadwrn 3pm
Hyd y perfformiad: 1 awr
Canllaw oed: 5+
Hygyrchedd:
Bydd sain ddisgrifiad ar gael ym mhob perfformiad.
Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais wrth archebu. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk
Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.
BABANOD AR LINIAU
Am ddim – archebwch le. Ar gael i blant o dan 2 oed gydag oedolyn yn eu gwarchod.
CYNNIG I BOBL O DAN 16
£6
CYNNIG I GRWPIAU
Gostyngiad o £5 i grwpiau 10+. Trefnu ymweliad grŵp.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd