Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae'r perfformiad ar ddydd Llun 5 Rhagfyr wedi'i ganslo. Cysylltwyd â deiliaid tocynnau trwy e-bost.
Mae'r dramodydd enwog Conor McPherson (The Weir, The Seafarer) yn ail-ddychmygu caneuon chwedlonol Bob Dylan fel nad ydych erioed wedi'u clywed o'r blaen mewn stori dorcalonnus a pherthnasol am deulu a chariad.
“A show that transports the soul. Incredible”
Yn 1934 yng nghalon America, mae grŵp o eneidiau gwamal yn cwrdd mewn hen westy.
Yn sefyll ar drobwynt yn eu bywydau, maent yn sylweddoli nad yw unrhywbeth fel y mae'n ymddangos. Ond wrth iddynt edrych am ddyfodol, a chuddio o'r gorffenol, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu gwirioneddau nas llefarwyd am y presennol.
“Powerful, affecting and original.”
Wrth i'r sioe hynod boblogaidd o'r West End a Broadway, sydd wedi ennill dau Wobr Olivier, ddychwelyd i'r DU fel rhan o daith ryngwladol mawr, peidiwch â cholli'r cyfle i brofi'r cynhyrchiad "magnificent" (Standard), "astonishing" (Guardian) a "piercingly beautiful" (Independent) a ddaw'n fyw gyda chymorth cwmni anhygoel o actorion a cherddorion.
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Conor McPherson
Cerddoriaeth a geiriau gan Bob Dylan
“Conor McPherson weaves magic with Bob Dylan's songs”
Canllaw oedran: 12+ (neb o dan 2).
Mae'r perfformiad hwn yn cynnwys rhegi, ergydion gwn, goleuadau sy'n fflachio, ysmygu sigaréts gwair a phynciau trafod aeddfed.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Amser rhedeg: tua 2 awr 30 munud (gan gynnwys un egwyl).
Cynnig aelodau
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Dod yn aelod.
Cynigion grŵp
Grwpiau 10+ o leiaf £4 i ffwrdd, Maw – Iau, 2 bris uchaf. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynnig myfyrwyr a dan 16
£4 i ffwrdd, Maw – Iau, 2 bris uchaf.
Pob cynnig yn amodol ar seddi ddewisiol, dosraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.