Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A wall covered in graffiti

Graffiti a Chelf Stryd

Cyfle creadigol am ddim

The Boiler House

14 Medi – 19 Hydref 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Graffiti a Chelf Stryd {{::on_sale_date.label}} The Boiler House MM/DD/YYYY 15 event-1510

Graffiti a Chelf Stryd

Cyfle creadigol am ddim

14 Medi – 19 Hydref 2022

The Boiler House

Ymunwch â The Boiler House Graffiti Gallery a dysgwch sut i fod yn Arlunydd Graffiti!

Ar y cwrs hwn byddwch chi'n gweithio gydag Arlunwyr Graffiti proffesiynol ac yn dysgu sut i ddefnyddio paent chwistrell i greu murluniau Graffiti lliwgar a thrawiadol ar raddfa fawr. Mae ganddynt lawer o brofiad ac maent wedi creu murluniau di-rif o amgylch y DU a thramor.

Dros chwe wythnos bydd yr arlunwyr yn gweithio gyda chi i ddylunio a phaentio murlun mawr a fydd yn cael ei arddangos fel rhan o'n gŵyl gelfyddydol ryngwladol, Llais.

Nodwch fod y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn The Boiler House Graffiti Gallery yn Nhreganna. Gofynnwn i rieni/gwarcheidwaid ollwng a chasglu unrhyw bobl ifanc sy'n dilyn y cwrs yn y lleoliad hwn. Os oes gennych unrhyw anghenion neu ofynion hygyrchedd penodol o ran cyrraedd y lleoliad, cysylltwch â ni.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un 14 – 18 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

I sicrhau eich lle ar ein cwrs chwe wythnos am ddim, cofrestrwch.

PRYD?

Bob dydd Mercher, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos yn dechrau ar 14 Medi 2022.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 14 Medi, 21 Medi, 28 Medi, 5 Hydref, 12 Hydref a 19 Hydref a bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn at eich basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Rhaglen unigryw yw Llais Creadigol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

The Boiler House