Mae'r ystafell ymarfer fawr yma tua'r un maint â Stiwdio Weston, ac mae'n ofod hyblyg a ddefnyddir yn bennaf i ymarfer, hyfforddi, cynnal gweithdai a storio setiau.
Yn ystod Gŵyl y Llais 2018, defnyddiwyd y lleoliad i gynnal perfformiadau Double Vision, sioe gerdd gyffrous a gyd-gynhyrchwyd gennym ni a'r gwneuthurwyr theatr-gig, Gagglebabble.
Dydy'r ardal ddim yn agored i'r cyhoedd fel arfer, ond mae modd i'r cyhoedd ei gweld ar Daith y Tu Ôl i'r Llen.