Mae dawns, gwyddoniaeth a’r byd digidol yn cyfuno yn y cynhyrchiad newydd bywiog ac egnïol hwn gan Jack Philp Dance.
Mae Opto Nano yn daith haniaethol a llawn symud yn seiliedig ar ymchwil arloesol yr Athro Paola Borri.
Wedi'i greu gyda chast eithriadol o bum perfformiwr, mae'r gwaith dawns cyfoes hwn yn dod â bioffiseg i'r llwyfan; yn archwilio technegau delweddu celloedd arloesol gan ddefnyddio microsgopau a laserau.
Gyda sgôr sain electronig gan y cyfansoddwr enwog o Gymru R.Seiliog, mae'r coreograffi yn falch o hyrwyddo cydweithredu ar draws gwahanol fydoedd mewn ffrwydrad deinamig o symudiadau, golau a lliw.
Amser cychwyn:
Sad 7.30pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr 20 munud (gan gynnwys un egwyl)
CYNNIG MYFYRWYR A DAN 16
Tocynnau am £12
CYNIGION I GRWPIAU A YSGOLION
Grwpiau 10+ gostyngiad o £2
Pob cynnig yn amodol ar seddi ddewisiol, dosraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.