Mae un o sioeau mwyaf poblogaidd Matthew Bourne yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru am wythnos yn unig!
Mae Nutcracker! yn sioe sy’n berffaith ar gyfer bob tymor, ac wedi derbyn clod gan feirniaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
““A witty, wonderful, rip-roaring spectacular””
““The sweet treat we all deserve””
Gyda ffraethineb a ffantasi hudolus nodedig Matthew Bourne, mae Nutcracker! yn dilyn taith chwerwfelys Clara o Noswyl Nadolig dywyll yng nghartref plant amddifad Dr. Dross, trwy fyd gaeafol sglefrio iâ disglair i deyrnas losin Sweetieland. Dyma gynhyrchiad wedi’i ysbrydoli gan sioeau cerdd ysblennydd Hollywood y 1930au.
Mae setiau a gwisgoedd hyfryd Anthony Ward yn cyfuno â choreograffi gwefreiddiol Bourne i greu Nutcracker! ffres a direidus sy’n addas ar gyfer bob tymor. Disgwyliwch sypreisys newydd yn y cynhyrchiad gwefreiddiol yma sydd wedi’i ailddyfeisio.


3 Dancers with coloured helmets leaping in front of a giant pair of lips and teeth





Wedi’i ddisgrifio fel ‘the undisputed king of dance theatre’ gan The Observer, mae’r meistr o adrodd straeon Matthew Bourne a’i gwmni, New/Adventures wedi creu rhai o gynyrchiadau dawns mwyaf llwyddiannus y ddwy ganrif ddiwethaf, gan gynnwys The Red Shoes, Swan Lake, Cinderella, Edward Scissorhands ac, yn fwyaf diweddar, ei ail-ddychmygiad arobryn o Romeo and Juliet.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar 22 Mawrth. Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£10 — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
CYNIGION DAN 26
Tocynnau am £10
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.