Yn llawn o’r afresymol a’r afresymegol, mae artistiaid ifanc gwych y National Opera Studio yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru gydag archwiliad egniol o Theatr yr Absẃrd.
Drwy rai o ddarnau mwyaf anarchaidd ac unigryw y repertoire operatig o Les Mammelles des Tiresias i Alcina, Cheryomushki i Le Roi Carotte, profwch arswyd a dryswch byd sy’n ymddangos yn ddiystyr ac absẃrd, ble cwestiynir gwerth bodolaeth ddynol.
Mae Cerddorfa WNO yn cyfeilio i’r cynhyrchiad lled-llwyfan hwn o olygfeydd, a ddyfeisiwyd ac a gynhyrchwyd gan Emma Jenkins, mewn prynhawn bythgofiadwy o anarchiaeth a rhialtwch.
Amser cychwyn:
Sul 4pm
Cynnig myfyrwyr
Tocynnau am £8
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.